Colofn Rhun ar gyfer yr Holyhead Mail 16.03.16

Yn y Cynulliad yr wythnos diwethaf, fe godais bryderon am y cwtogiad mewn arian i Gyrfa Cymru a pholisi Llywodraeth Cymru o symud oddi wrth gyngor gyrfaoedd wyneb-i-wyneb i ddisgyblion. O ganlyniad, dim on un swyddog gyrfaoedd sydd yna i bob 6 ysgol yng Nghymru ar gyfartaledd – mae hynny’n golygu llai nag un ar gyfer Ynys Môn i gyd. Mae cyllid gyrfaoedd wedi mwy na haneru o dan y Llywodraeth Lafur bresennol, ac mae’n achos gofid mawr.

Mae gwneud yn siŵr dos ein pobl ifanc yn ymwybodol o’r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw, a gwybod sut orau i ddilyn y llwybr gyrfa mae nhw’n ei ffafrio yn hynod o bwysig. Mae gennym nifer o ddatblygiadau cyffroes yn Ynys Môn ar hyn o bryd – gyda phrosiectau ynni mawr o Wylfa Newydd i ynni morol a biomas, y Parc Gwyddoniaeth yn y Gaerwen neu’r diwydiant bwyd a lletygarwch sy’n ehangu.

Roedd yn amlwg mewn cyfarfod cyhoeddus diweddar a drefnais yng Nghaergybi, fod cyfleoedd swyddi a hyfforddiant i’n gweithlu yn uchel ar restr blaenoriaethau lot o bobl. I’r rhai sydd yn awyddus i weithio yn eu cymunedau eu hunain yn hytrach na gorfod symud i ffwrdd i chwilio am waith, mae’n bwysig eu bod nhw’n gwybod pa swyddi sydd ar gael ar yr ynys a sut y gallen nhw ddysgu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y swyddi hynny.

Ac mae gennym ni gymaint o bobl ifanc talentog ar yr ynys. Yr wythnos diwethaf, bu criw o ddisgyblion o Ysgol Syr Thomas Jones Amlwch yn paratoi bwletin newyddion i’r BBC, gydag eitemau am Wylfa Newydd a gwisg ysgol – da iawn i Siwan ac Owain a siaradodd mor dda a hyderus ar y radio. A llongyfarchiadau mawr i Carmen Smith sydd newydd gael ei hethol yn Ddirprwy Lywydd NUS Cymru – dwi’n hyderus y bydd yn gwneud gwaith ardderchog.

Cyfarfûm hefyd hefo Dafydd Jones yr wythnos diwethaf, sydd newydd gael ei benodi gan Orthios fel prentis ffitiwr. Fe astudiodd Dafydd beirianneg yng Ngholeg Menai ac mae’n awry n edrych ymlaen at adeiladu gyrfa yn y Parc Eco newydd yng Nghaergybi. Roeddwn yn falch hefyd o glywed Orthios yn rhoi addewid i ddefnyddio a datblygu talent leol i’w helpu i ddatblygu eu cynlluniau.

A maddeuwch i mi, ond fedrai ddim peidio a son am fy llwyddiant fy hun yn Llundain y penwythnos yma, wrth i mi sgorio cais dros Gymru (a rhywsut cael fy enwi yn Chwaraewr y Gêm!). Na, doeddwn i ddim yn chwarae i dîm Warren Gatland, ond fe wnaeth tîm rygbi’r Cynulliad drechu tîm San Steffan o 33-22, tra hefyd yn codi arian ar gyfer Bowel Cancer UK. Ychydig lathenni i ffwrdd ar yr un diwrnod, fe wnaeth George North sgorio hefyd – Ynys Môn yn chwifio’r fflag!