Colofn Rhun ar gyfer yr Holyhead & Anglesey Mail 30 03 16

Cyfarfu’r Cynulliad Cenedlaethol am y tro olaf cyn yr etholiad yr wythnos diwethaf. Yn fy nghyfraniad olaf yn y siambr cyn y diddymiad, atgoffais y Llywodraeth o bwysigrwydd buddsoddi ledled Cymru.

Mae’r fargen ddinesig a gyhoeddwyd ar gyfer dinas Caerdydd yn ddiweddar yn amlwg yn newyddion da i’r de-ddwyrain, ond yn y gogledd, fel mewn rhannau eraill o’r wlad, mae pryder bod y buddsoddiad hwn yn digwydd ar draul eraill, a hynny ar ben cynlluniau Llafur i wario £1 biliwn ar ‘lwybr DU’ yr M4. Mae’n ddealladwy felly fod pobl yn holi ‘lle mae’r buddsoddiad cyfatebol i ni?’

Mae hyn yn bwysig, nid yn unig o ran datblygu economaidd, mewn termau ymarferol creu swyddi, gwella cysylltiadau trafnidiaeth ac ati, ond hefyd mae dimensiwn gwleidyddol y credaf y mae’n bwysig iawn i ni beidio â’i anwybyddu. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithio ar gyfer Cymru gyfan ac mae unrhyw ganfyddiad nad ydy hi yn ddrwg i ddatganoli, o bosibl, ac yn ddrwg i beth ddylai fod yn ymdrech gyffredin i bob un ohonom, sef cysylltu Cymru a mentro’n genedlaethol ar y cyd i greu Cymru decach a mwy ffyniannus. Yr ydw i a Phlaid Cymru wedi ymrwymo i uno Cymru a lledaenu ffyniant.

Gyda dim mwy o gyfarfodydd Cynulliad i’w mynychu, rydw i wedi gallu treulio hyd yn oed mwy o amser ar Ynys Môn. Roedd cyfarfodydd yr wythnos diwethaf yn cynnwys ymweliad â swyddfeydd newydd Minesto yng Nghaergybi i glywed am eu datblygiadau cyffrous mewn ynni llanw ac i gwrdd â rhai o’r gweithlu lleol. Cyfarfûm hefyd â chynrychiolwyr o gynghorau cymuned ledled yr ynys i drafod y camau diweddaraf yr ydw i wedi bod yn eu cymryd i wrthwynebu cynlluniau’r Grid Cenedlaethol i godi peilonau newydd ar draws Ynys Môn. A bûm mewn digwyddiad Age Cymru Gwynedd a Môn yn Niwbwrch yn hyrwyddo camau i gadw yn iach, yn gynnes ac yn ddiogel yn y gaeaf – yn cynnig cyngor i dros 50 oed ar sut i gadw biliau ynni yn isel a chadw’r cartref yn ddiogel a hefyd yn cynnig profion pwysedd gwaed. Yr oeddwn yn falch o glywed, hyd yn oed gydag etholiad ar y gweill, fod fy mhwysedd gwaed yn normal!

Bûm hefyd yn cynnal cymhorthfa etholaeth ym Menllech yn ogystal â digwyddiad agored yn Aberffraw gyda’r Cynghorydd lleol Plaid Cymru Ann Griffith. Diolch i bawb a alwodd heibio. Byddaf, heb os, yn gweld llawer mwy ohonoch yn yr wythnosau nesaf. Mae cael cynrychioli Ynys Môn yn anrhydedd go iawn, ac rwyf wastad wedi gweld y gwaith o hyrwyddo buddiannau’r ynys fel menter ar y cyd rhwng pob un ohonoch chi a minnau.