Colofn Rhun i’r Holyhead Mail 11 05 16

Mae’r gwaith caled yn awr yn ail-ddechrau!

Ers oriau man bore Gwener, rydw i’n awr wedi cael amser i adlewyrchu ar yr etholiad a’r canlyniad yn Ynys Môn. Roedd yn bleser cael cydweithio gyda thîm arbennig Plaid Cymru ym Môn ac i gael miloedd o sgyrsiau gyda phobl anhygoel ar hyd a lled yr ynys.

Doeddwn i ddim wedi breuddwydio y gellid gwella ar ganlyniad isetholiad 2013, ond dyna beth ddigwyddodd, gyda mwyafrif Plaid Cymru yn Ynys Môn rŵan y mwyaf ar gyfer unrhyw blaid yng Nghymru.
Diolch i bawb a gymerodd ran – dim ots pa mor fach neu fawr – yn yr ymgyrch, ond yn fwy na dim diolch i bawb ar Ynys Môn a roddodd eich ffydd ynof fi a Phlaid Cymru unwaith eto i’ch cynrychioli chi yn y Cynulliad Cenedlaethol. Fe wnaf fy ngorau i ad-dalu’r ffydd yna.

Ers i mi gael fy ethol yn gyntaf bron i dair blynedd yn ôl, rydw i’n gobeithio fy mod wedi dangos y byddaf wastad yn rhoi 100% wrth fynd ar ôl beth sydd orau i Ynys Môn ac wrth geisio dyfodol gwell i’n cenedl. Rydw i’n addo i barhau i wneud hynny. Yn y Senedd ym Mae Caerdydd, fe wnaf barhau i godi fy llais i wneud yn siŵr fod ein hanghenion a’n diddordebau ni ar yr agenda a bod Gweinidogion Llywodraeth yn gwrando arnynt.

Rydym eisoes yn gwybod beth yw’r heriau. Mae’n rhaid i ni sicrhau fod popeth posib yn cael ei wneud i ddarparu mwy o gyfleoedd swyddi a rhai gwell, a’n bod ni’n adeiladu ar ein cryfderau i geisio dyfodol mwy ffyniannus. Rhaid i ni ddal y Llywodraeth leiafrifol Llafur i gyfrif a rhoi pwysau arnynt i wneud gwahaniaeth go iawn yn y gwasanaethau cyhoeddus y maent yn y gorffennol wedi tanberfformio, yn enwedig iechyd ac addysg.

Yn amlwg allai ddim gwneud hyn ar ben fy hun, felly rydw i’n eich gwahodd chi i gyd ym Môn i ymuno gyda mi yn y fenter yma ar y cyd dros y 5 mlynedd nesaf.
Rydym fel ynys yn lwcus i gael adnoddau ffantastig – ein hanes, prydferthwch naturiol, cynnyrch y tir a’r môr, ynni, diwylliant byw – ond yn fwyaf pwysig, ein pobl. Gyda’n gilydd gallwn gryfhau cymunedau Môn.

Unwaith eto, diolch o galon.