Rhun yn cefnogi ymgyrch i GURO FFLIW

Rhun ap Iorwerth yn annog pobl mewn grwpiau ‘risg’ i gael eu brechiad ffliw rhad ac am ddim

Mae Rhun ap Iorwerth yn annog pawb sy’n gymwys i gael y brechiad influenza (ffliw) rhad ac am ddim i amddiffyn eu hunain ac eraill.

Brechu yw’r amddiffyniad gorau rhag dal neu ledaenu influenza, salwch sy’n eich gwanhau’n ddifrifol ac sy’n gallu lladd.

Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn a Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros iechyd, Rhun ap Iorwerth, yn ymuno â’r galwadau sy’n cael eu gwneud gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i bobl sydd mewn grwpiau risg i fynd at eu meddyg teulu neu fferyllfa gymunedol ac i gael eu brechlyn ffliw yn fuan.

Mae pob plentyn dwy i wyth oed yn cael cynnig y brechlyn fel chwistrell trwyn syml, felly dim nodwyddau. Bydd y plant dwy a thair oed (ar 31 Awst 2017) yn cael eu brechlyn chwistrell trwyn gan eu meddyg teulu a bydd plant yn y dosbarth derbyn a blynyddoedd un, dau, tri a phedwar yn cael cynnig eu brechlyn chwistrell trwyn yn yr ysgol.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth AC: “Mae’r ymgyrch Curwch Ffliw ar waith ledled Cymru i gynnig brechlynnau ffliw i unigolion sy’n wynebu’r perygl mwyaf o ddioddef cymhlethdodau difrifol o ffliw, a’m neges i iddyn nhw yw i sicrhau eu bod yn cael y brechiad cyn gynted ag y bo modd.
“Y llynedd yng Nghymru cafodd llai na hanner (47%) y bobl dan 65 mlwydd oed mewn grwpiau ‘risg’ a fanteisiodd ar eu brechiad GIG rhad ac am ddim, ac mae mawr angen inni gynyddu’n sylweddol faint o bobl sy’n cael eu brechu er mwyn atal y salwch hwn y gellir ei rwystro i raddau helaeth rhag lledu.”
Dywedodd Dr Richard Roberts, Pennaeth Rhaglen Heintiau y Gellir eu Hatal trwy Frechlyn yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, “Bob blwyddyn mae firysau ffliw yn cylchredeg, yn achosi llawer o bobl i fod yn sâl ac mae rhai yn wynebu sefyllfaoedd sy’n peryglu eu bywydau. Y llynedd mewn unedau gofal dwys yng Nghymru cadarnhawyd fod gan 74 o gleifion ffliw.

“Mae’r firysau ffliw yn newid yn rheolaidd ac mae gwarchodaeth y brechlyn yn lleihau gydag amser, ac felly os ydych mewn grŵp risg ac os cawsoch y brechlyn y llynedd, mae’n bwysig o hyd eich bod yn cael eich brechu eleni i ddiogelu eich hun dros y gaeaf.

“Brechiad ffliw blynyddol yw’r dull unigol gorau o amddiffyn eich hun rhag cael neu ledu’r hyn all fod yn salwch all eich gwanychu’n llwyr.”

Caiff firws y ffliw ei wasgaru’n rhwydd trwy ddiferion sy’n cael eu chwistrellu i’r awyr pan mae person sydd wedi’i heintio yn pesychu neu’n tisian. Mae cyswllt uniongyrchol â dwylo neu arwynebau a heintiwyd hefyd yn gallu gwasgaru’r haint. Gall ledu’n gyflym iawn, yn enwedig felly mewn cymunedau caeedig fel ysbytai, cartrefi preswyl ac ysgolion.
I wybod mwy am sut i gael y brechlyn yn rhad ac am ddim ewch i www.curwchffliw.org neu www.beatflu.org , neu trwy ddod o hyd i Beat Flu neu Curwch Ffliw ar twitter a facebook.