RHUN YN CEFNOGI BORE COFFI MWYA’R BYD MACMILLAN

Mae Mr Rhun ap Iorwerth, Aelod Cynulliad dros Ynys Môn, wedi helpu Cymorth Canser Macmillan i hyrwyddo Bore Coffi Mwya’r Byd, sef digwyddiad codi arian mwyaf blaenllaw yr elusen.

Mae’r Bore Coffi ar ei 27ain blwyddyn erbyn hyn a bu Rhun yn mwynhau paned a darn o deisen yn y digwyddiad codi ymwybyddiaeth yn yr Oriel yn y Senedd, yn ogystal â manteisio ar y cyfle i sgwrsio â staff a gwirfoddolwyr Macmillan.

Wrth sôn am gefnogi’r digwyddiad elusennol, dywedodd Aelod Cynulliad Ynys Môn, “Mae Bore Coffi Mwya’r Byd yn ddigwyddiad codi arian gwych sy’n cael ei gynnal mewn cartrefi, ysgolion a gweithleoedd ledled Cymru. Mae’n ddigwyddiad cymdeithasol hyfryd ac yn ffordd ragorol o ddod ynghyd, rhannu darn o deisen a phaned a chodi arian i elusen.

“Mae Cymorth Canser Macmillan yn helpu pobl o’r union adeg pan gânt ddiagnosis, gyda chymorth meddygol ac ymarferol, yn ogystal â chefnogaeth emosiynol ac ariannol. Ond maent yn dibynnu ar gyfraniadau gan y cyhoedd i helpu i ariannu eu gwaith.

“Gwyddom y bydd un o bob tri ohonom yn cael canser. Bob blwyddyn yng Nghymru, bydd 19,000 o bobl yn cael y newyddion trallodus fod canser arnynt.

Ychwanegodd, “Bydd yr afiechyd hwn yn effeithio ar fywydau ein teuluoedd, ein ffrindiau, ein cyd-weithwyr a’n cymdogion, a dyna pam rwyf yn cefnogi Bore Coffi Mwya’r Byd a Chymorth Canser Macmillan.”

Ac meddai Susan Morris, Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru:

“Mae’n wych gweld ein Haelodau Cynulliad etholedig yn cefnogi Macmillan yng Nghymru, a hoffem ddiolch i Rhun am y gefnogaeth.

“Mae disgwyl i nifer y bobl sy’n byw gyda chanser yng Nghymru gyrraedd 240,000 erbyn 2030, felly mae Cymorth Canser Macmillan eisiau sicrhau na fydd neb yn y dyfodol yn wynebu canser ar eu pen eu hunain.

“Y llynedd yng Nghymru fe wnaethom godi dros £1.2 miliwn, sy’n dangos mor arbennig o hael yw Cymru fel cenedl. Rydym yn gobeithio codi cyfanswm yr un mor nodedig, os nad yn fwy, eleni.”

Er mwyn cofrestru i gynnal bore coffi ffoniwch 0300 1000 200 neu ewch i www.macmillan.org.uk/coffee.

Am wybodaeth am ganser neu gefnogaeth, ffoniwch Linell Gymorth Macmillan ar 0808 808 00 00 (8am i 8pm Dydd Llun i Ddydd Gwener) neu ewch i www.macmillan.org.uk.