Rhun yn croesawu arian i wella diogelwch ar y B5110

Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wedi croesawu’r newyddion y bydd gwelliannau’n cael ei wneud ar ddarn berygluso lôn ym Môn.

Yn gynharach eleni, fe ysgrifenodd Rhun at y Cyngor ar ôl bod yn un o’r cyntaf i gyrraedd damwain ar y B5110, i ofyn am adolygiad diogelwch.

Fe gyflwynodd y Cyngor gais, wedi’i gefnogi gan Heddlu Gogledd Cymru, am gyllid gan Llywodraeth Cymru a heddiw, mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi ei fod wedi dyrannu
£163,000 i uwchraddio arwyddion, marciau ffyrdd a gwella wyneb y ffordd ar y B5110 rhwng Llangefni a Marianglas. 
 
Dywedodd Rhun ap Iorwerth:
 
“Roeddwn i’n un o’r cyntaf i gyrraedd man damwain yno ym mis Ionawr. Yn ffodus, nid oedd neb wedi eu hanafu’n ddifrifol, ond fe wnaeth eraill gysylltu gyda mi ar y pryd i dynnu fy sylw fod nifer o ddamweiniau wedi bod yn yr un man.
 
“Wedi i mi gysylltu gyda’r Cyngor i ofyn pa gamau ellid cael eu cymryd i wella diogelwch, rydw i’n falch o glywed rwan y bydd buddsoddiad yn cael ei wneud. Rydw i’n ddiolchgar i swyddogion y Cyngor am weithredu mor gyflym.

“Gobeithio y gall y mesurau yma helpu i atal damweiniau eraill rhag digwydd yma.”