Rhun yn canmol esiampl hyrwyddwr ffitrwydd lleol yn y Senedd

Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wedi croesawu’r ffaith fod ACau wedi cefnogi’n unfrydol gwelliannau Plaid Cymru i Fil Iechyd y Cyhoedd yn gosod y ffordd ar gyfer strategaeth i fynd i’r afael â gordewdra yng Nghymru.

Yn ei gyfraniad i’r ddadl ar y Bil, soniodd Rhun am ddylanwad Ray Wiliams o Gaergybi sydd yn hyrwyddo Caergybi, Môn a Chymru iachach.

Yn siarad yn y Senedd am yr angen i roi mynd i’r afael â gordewdra ar wyneb y Bil, dywedodd Rhun:

“Mae hwn yn fater yr wyf yn teimlo’n gryf iawn amdano yn bersonol. Ond mae un dyn yn fy etholaeth sydd wedi bod yn ddylanwadol iawn o ran cryfhau fy mhenderfyniad i sicrhau bod y Cynulliad, a Llywodraeth Cymru, yn cymryd camau gweithredu yn y maes hwn. Ray Williams enillodd y fedal aur am godi pwysau yn y dosbarth pwysau plu dros Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad 1986, ond mae’n dal i fod yn bencampwr o hyd—pencampwr o ran sicrhau bod ei dref, Caergybi, ac Ynys Môn, a’n cenedl, yn iachach ac yn fwy heini. 

“Siaradais â Ray y bore yma ac mae’n falch ein bod bellach mewn sefyllfa lle gallwn, heddiw, gobeithio, ennill cefnogaeth y Cynulliad ar gyfer y gwelliant hanfodol hwn lle mae rhywbeth sydd, yn ei farn ef, wedi difetha lles ein cenedl ers degawdau bellach am fod yn ganolbwynt i strategaeth glir y Llywodraeth. Os cawn ni’r strategaeth yn gywir, mae ef yn credu y gallwn nid yn unig fod yn genedl iachach a mwy heini, ond yn un hapusach hefyd—a bydd yn arbed arian, mae’n dweud. Ac mae’n iawn, wrth gwrs. Mae Cancer Research UK yn amcangyfrif bod gordewdra yn costio £73 miliwn y flwyddyn i’r GIG. Pan eich bod yn ychwanegu afiechydon fel diabetes math 2 at hynny, a achosir yn bennaf gan ordewdra, yna mae’r ffigwr yn codi i gannoedd o filiynau o bunnoedd bob blwyddyn.

“Nawr, gyda’r gwelliannau, gobeithio, wedi’u pasio a’r Bil wedi’i ddeddfu, yna bydd y gwaith yn dechrau, wrth gwrs, o wneud yn siŵr bod gennym strategaeth gref, â phwyslais, uchelgeisiol, ac y gellir ei chyflawni. Bydd Ray—rwy’n gwybod—a llawer tebyg iddo ond yn rhy falch o gyfrannu at y gwaith o lunio’r strategaeth honno. Mae er budd pob un ohonom ni yn y fan yma, pob un ohonom ni yng Nghymru, ond yn gyntaf gofynnaf i chi gefnogi ein gwelliannau heddiw.”