Rhun yn paratoi i gynrychioli ei wlad unwaith eto yn y rygbi

Wrth i Rhun ap Iorwerth a gweddill tim rygbi’r Cynulliad Cenedlaethol baratoi i wynebu tim Ty’r Cyffredin a Thy’r Arglwyddi yn Llundain penwythnos yma, mae Rhun wedi bod yn edrych nôl ar ei atgofion o’r gem ddiwethaf yng Nghaerdydd:

Cynulliad Cyrmu v Tŷ’r Cyffredin/Arglwyddi 2015 – Rhun ap Iorwerth AC

Ar y 6ed o Chwefror 2015 y cefais i fy nghap rygbi cyntaf dros fy ngwlad. Wel, nid cap i Gymru a bod yn fanwl gywir, ond fy ymddangosiad cyntaf i dîm Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Parc yr Arfau Caerdydd oedd y lleoliad. Fi. Yn chwarae rygbi ym Mharc yr Arfau! Allwn i ddim credu’r fraint.

Yn yr ystafell newid, daeth ein tîm ynghyd – ysgwydd wrth ysgwydd, fraich ym mraich, yn deep heat ar goesau a thâp dros glustiau (a thâp mwy sylweddol i gadw cyrff ‘aeddfed’ rhag datgymalu!) – i ganu Hen Wlad fy Nhadau. Roedd y wefr yn rhyfeddol, a phob un ohonom yn llawn angerdd wrth wynebu’r dasg o’n blaenau yn enw Cymru!

Y drws nesaf, ym mhair Stadiwm y Mileniwm, roedd Cymru yn paratoi i chwarae Lloegr ym mhencampwriaeth y 6 gwlad, ac ar y diwrnod hwnnw yn unol â thraddodiad bellach mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn herio Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi.

O flaen torf o rai cannoedd, roedd yn gêm galed, gorfforol. Ar yr asgell oeddwn i. Cyfle i roi tacl gynnar ar yr A.S. Alun Cairns yn rhoi gwen ar fy wyneb ac yn dod â bloedd gan y dorf. Fy nghyd-A.C. Andrew RT Davies yn rhoi pas dwt ‘drwy’r drws cefn’ i greu un cais, minnau (wir!) yn cael o wefr o fod yn rhan o symudiad yn pasio’r bel drwy’r dwylo ar y ffordd at gais arall. Cael ergyd i fy ysgwydd chwith dri chwarter ffordd drwy’r gêm, a gadael y cae, ond y gwaith caled wedi’i wneud a ninnau ar y ffordd at fuddugoliaeth enwog arall. Y sgôr terfynol 33:14.

Dros beint wedyn, cydymdeimlwyd ag Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb ar ei anaf i’w law. Bu mewn plastr am wythnosau wedyn. Gwobrwywyd y chwaraewyr mwyaf disglair. Ond yn bennaf oll roedd cyfle i bob un ohonom, y chwaraewyr, y timau cefnogol, y trefnwyr (a’r ffans, wrth gwrs!) i gofio bod pwrpas i hyn, a miloedd o bunnau’n rhagor wedi eu codi i’n helusen, Bowel Cancer UK.

Fy nghap cyntaf. Ond nid yr olaf!