Dylai’r Llywodraeth wrando ar Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ar gynlluniau’r M4, meddai Rhun ap Iorwerth

Mae llefarydd cysgodol Plaid Cymru dros yr economi a chyllid Rhun ap Iorwerth wedi annog Llywodraeth Cymru i beidio ag anwybyddu barn Comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol wrth iddo ystyried cynlluniau ynglŷn â’r llwybr yr M4 du arfaethedig.

Mae Comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol Cymru Sophie Howe wedi cwyno am “obsesiwn Llywodraeth Cymru am fynd i’r afael â materion trafnidiaeth yn yr 21ain ganrif gydag atebion 20fed ganrif” gan ddadlau bod “y llwybr DU yn methu ystyried tueddiadau’r dyfodol ac nad yw’n adlewyrchu’r uchelgais neu fwriad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r dyfodol.”

Tra’n cwestiynu’r Gweinidog Cyllid Mark Drakeford heddiw, anogodd Mr ap Iorwerth yr ymgeisydd am arweinyddiaeth Llafur Cymru i beidio â thanseilio’r Comisiynydd yn yr “achos prawf mawr cyntaf o’r dylanwad sydd gan y Comisiynydd” a gofynnodd i’r Gweinidog ymrwymo i gynnal ymchwiliad i’r ffordd orau o wario’r £ 2bn sydd wedi’i glustnodi ar gyfer yr M4.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Mae Comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol wedi mynegi barn gref ers peth amser bellach ynglŷn â llwybr DU arfaethedig yr M4 ac wedi trafod sut y gallai wthio ymlaen â’r cynlluniau osod cynsail peryglus ar gyfer y dyfodol.

“Yn fwy diweddar, mae’r Comisiynydd wedi mynegi ei barn yn gliriach eto, gan ddweud nad yw’n credu bod y cynllun hwn yn cyd-fynd ag anghenion cenedlaethau’r dyfodol. Onid yw safbwyntiau mor gryf â rhain, gan rywun y mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi Ymddiriedaeth o’r fath ar eu cyfer yn y gorffennol yn ddigon i roi terfyn ar y cynnig hwn?

“Mae’n ddigon teg cael disgwyliad am yr hyn y gall y Comisiynydd ei wneud dros Gymru ac yn yr achos prawf mawr cyntaf hwn o ddylanwad y Comisiynydd dylai Llywodraeth Cymru ddangos ei fod yn cymryd y rôl yn ddifrifol dros ben.

“Mae’r Comisiynydd yn codi rhai cwestiynau difrifol a sylfaenol am werth am arian a beth mae hynny’n ei olygu o ran cyllid ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Fel deiliad y pwrs cyhoeddus yng Nghymru, a rhywun sy’n gyfrifol am sicrhau ein bod yn cael y gwerth gorau am ein harian, dylai Ysgrifennydd Cyllid y Cabinet roi ymrwymiad y bydd yn ymchwilio i bob posibilrwydd o wario’r swm sylweddol hwnnw o arian mewn ffordd fwy synhwyrol.”