Colofn Rhun ap Iorwerth i’r Holyhead and Anglesey Mail 14 02 18

Dwi’n falch o ddweud, gyntaf i gyd, fod eich Aelod Cynulliad yn dal i fod mewn un darn ar ôl gêm rygbi ffyrnig arall rhwng y Cynulliad a Thai’r Cyffredin ac Arglwyddi. Mae’n ddigwyddiad blynyddol, sy’n cael ei gynnal ar ddiwrnod gêm Cymru v Lloegr yn y Chwe Gwlad. Fe enillodd y Cynulliad unwaith eto (am y 7fed gwaith yn olynol rwan) ar ddydd Sadwrn, ond yn fwy pwysig, cawsom gyfle eto i godi ymwybyddiaeth o’n helusen, Bowel Cancer UK/Beating Bowel Cancer. Mae fy nghyd-weithiwr ym Mhlaid Cymru, Steffan Lewis AC, yn brwydro canser y coluddyn ar hyn o bryd, ac roedd o’n flaenllaw yn ein meddyliau wrth i ni gamu ar y cae ym Mharc Rosslyn yn Llundain.

Hefyd ar thema chwaraeon, hoffwn ddiolch i Ray Williams o Glwb Codi Pwysau a Ffitrwydd Caergybi ac Ynys Môn am roi tystiolaeth mor rymus i Bwyllgor Iechyd y Cynulliad yr wythnos diwethaf ar yr angen am fesurau brys i gynyddu gweithgaredd corfforol ymysg pobl ifanc. Roeddwn i eisiau iddo ddod i siarad gyda ni am fy mod yn gwybod gymaint o ddadleuwr angerddol a gwybodus ydy o yn y maes yma. Mae hi i fyny i ni fel Aelodau Cynulliad rwan i wneud yr achos dros weithredu gan y Llywodraeth.

Roedd fy ymarfer i gyda grŵp arbennig o ddisgyblion ysgol ar Ynys Môn yr wythnos ddiwethaf o natur feddyliol yn hytrach na chorfforol. Mae hi wastad yn braf cael cyfarfod gyda disgyblion, ond rhaid i mi ddiolch yn fawr i ddisgyblion blynyddoedd 3 a 4 yn Ysgol Henblas am wneud gwaith cartref mor dda cyn ein cyfarfod, fel fy mod wedi wynebu awr a hanner o gwestiynu di-dor. Fe wnes i wir fwynhau fy hun gyda chi – diolch bawb.

Mae ein hymchwiliad Pwyllgor Iechyd i weithgaredd corfforol wedi’i anelu at ddisgyblion fel nhw – gan roi bob cyfle iddynt aros yn heini ac yn iach. Yn ogystal â bod yn dda iddyn nhw, mae hefyd yn rhan o strategaeth tymor hir sydd ei angen arnom i gadw pwysau oddi ar yr NHS a’r system ofal – gan gadw pobl yn iach ac allan o’r ysbyty. Fe ddangosodd fy ymweliad i “bentwr diogelwch” Ysbyty Gwynedd yr wythnos cynt y math o bwysau mae nhw odano. I’r holl ddoctoriaid, nyrsys, rheolwyr a staff eraill, diolch am y croeso a’r mewnwelediad.