Colofn Rhun ap Iorwerth i’r Holyhead and Anglesey Mail 07.12.16

Mae cymaint o bobl ar Ynys Môn yn teimlo eu bod nhw wedi cael eu gadael i lawr gan gyhoeddiad NatWest yr wythnos diwethaf. Mae banciau yn cael eu rhwygo allan o’n strydoedd mawr ar raddfa frawychus. A nid dim ond ar Ynys Môn, mae hon yn broblem ledled y DG, ond does dim amheuaeth mai gwasanaethau gwledig ac mewn trefi bach mewn llefydd fel Ynys Môn sy’n cael eu taro galetaf. Rhywsut mae’n rhaid i ni newid y cydbwysedd yn ôl o blaid y cwsmeriaid. Os yw hynny’n golygu camau gweithredu gan y llywodraeth mewn rhyw ffordd, yna dyna ni.

Mae’n rhaid i ni ddatblygu ffordd o sicrhau bod banciau yn cofio pwy yw eu cwsmeriaid, sydd wedi eu helpu nhw i wneud eu helw. Rydw i am fod yn cyfarfod â phenaethiaid NatWest yr wythnos hon ac er nad yw record banciau yn gwrth-droi penderfyniadau i gau yn wych – gadewch i ni fod yn onest am hynny – mae’n rhaid i ni barhau i gyflwyno’r achos o blaid gwarchod gwasanaethau gwledig.

Diolch i bawb a ddaeth i’r cyfarfod cyhoeddus yn gwrthwynebu peilonau newydd ar draws yr ynys yn Llangefni ddydd Gwener diwethaf. Gydag ymgynghoriad Grid Cenedlaethol yn dod i ben ar Ragfyr 16eg, mae’n amser i bobl leisio eu barn. Ewch i http://www.northwalesconnection.com i roi gwybod i’r Grid pam eich bod yn gwrthwynebu.

Cyfarfûm bennaeth y rheoleiddiwr ynni Ofgem yr wythnos diwethaf i ddadlau’r achos dros fuddsoddi mewn dewisiadau eraill i beilonau, nid lleiaf oherwydd yr effaith ar ein hamgylchedd gweledol ac ar ein diwydiant twristiaeth, sydd yn hynod o bwysig.

Yr wythnos hon, rwy’n cwrdd â’r Ysgrifennydd Amgylchedd i drafod y syniad o gael Parc Bwyd yn Ynys Môn. Mae buddsoddiad ardderchog wedi ei wneud mewn mentrau fel y Ganolfan Technoleg Bwyd yng Ngholeg Menai yn Llangefni. Dwi’n credu od angen i ni wneud buddsoddiad pellach rwan i helpu cwmnïau i symud i’r cam nesaf – a chynyddu cynhyrchiad, cynyddu cyflogaeth, a datblygu diwydiant bwyd Ynys Môn. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gadarnhaol yn ei ymateb i’r achos dwi wedi ei wneud yn y gorffennol. Gobeithio nawr y gallwn symud yn agosach at y pwynt o wneud buddsoddiad.

Mae busnes arall y Cynulliad sydd wedi bod yn fy nghadw i’n brysur yn cynnwys dadl yr wyf wedi’i drefnu ar y cyd ar fynd i’r afael â gordewdra, sydd yn eithaf amserol gyda gormodedd y Nadolig bron ar ein gwarthaf.

Gadewch i ni gofio pa mor bwysig ydy hi i ofalu am y rhai llai ffodus na ni ar yr adeg hon o’r flwyddyn. Cefais groeso cynnes yn Tesco Caergybi yr wythnos diwethaf pan alwais heibio i gefnogi eu casgliad banc bwyd blynyddol. Gadewch i mi eich atgoffa hefyd am y Calendr Adfent Tu Chwith – dewch â’ch cyfraniadau i fy swyddfa erbyn 20 Rhagfyr os hoffech gymryd rhan.