Colofn Rhun ap Iorwerth i’r Anglesey Mail 14 09 16

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ôl mewn sesiwn. Rwy’n mwynhau treulio cymaint o amser ag sy’n bosibl yn mynd o amgylch yr etholaeth, yn ceisio helpu gydag amrywiaeth eang o faterion sy’n codi i unigolion, busnesau a sefydliadau eraill. Fodd bynnag, eich cynrychioli yn y Senedd yw’r rheswm pam caiff AC ei ethol, ac mae’r misoedd i ddod yn gaddo i fod yn rai prysur, gyda digon o faterion ar yr agenda sydd yn hynod o bwysig i ni yma ar Ynys Môn.

Mae llawer o fy amser yn cael ei gymryd gan faterion yn ymwneud â’r GIG, fel aelod o Bwyllgor Iechyd, Chwaraeon a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad ac yn fy rôl fel yr Ysgrifennydd Iechyd Cysgodol.

Mae’r rôl yn cynnwys cadw pwysau ar y Llywodraeth Lafur i ddarparu gwasanaeth iechyd gwell, mwy gwydn a chynaliadwy. Gallai’r llywodraeth fod cymaint clyfrach yn y ffordd y maent rhedeg y GIG, yn fy marnl i. O feinciau’r prif wrthblaid, rydw i a Phlaid Cymru wedi gallu perswadio gweinidogion i sefydlu adolygiad o’r ffordd y mae’r GIG yn gweithio yn gyffredinol, ac adolygiad manwl o Geisiadau Cyllido Cleifion Unigol, lle gall cleifion ofyn am arian ar gyfer y triniaethau a meddyginiaethau mwyaf diweddar. Fy ngobaith yw y bydd hyn yn arwain at ddiwedd y loteri cod post presennol ble y gallwch gael rhai triniaethau mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, ond nid mewn llefydd eraill.

Cyfarfûm wythnos diwethaf gyda phenaethiaid Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a cheisiwyd cael sicrwydd am ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Gwynedd ac yn Ysbyty Penrhos Stanley. Maent wedi fy sicrhau eu bod am gryfhau’r gwasanaethau hynny, ond mae’n rhaid i ni fod yn wyliadwrus er mwyn sicrhau nad yw penderfyniadau a wneir yng nghyd-destun cyllid cyhoeddus prin yn erydu’r gwasanaethau hynny sy’n hanfodol i ni.

Rwyf hefyd wedi cyfarfod â rhai o feddygon teulu Ynys Môn yr wythnos diwethaf. Mae gofal sylfaenol – eich meddygfa leol – wedi gweld ei gyfran o gyfanswm cyllid y GIG yn erydu dros y blynyddoedd. Mae tua 95% o gyswllt claf â’r GIG gyda Meddygon Teulu a staff eraill mewn meddygfeydd lleol, ac eto dim ond 7.5 % o gyllid y GIG mae gofal sylfaenol yn ei gael . Gadewch i ni fuddsoddi yn y sector hwn i arbed arian i lawr y lein.

Mae’r un peth yn wir am Fferyllfeydd. Ymwelais â fferyllfa Rowlands yn Llanfairpwll yr wythnos diwethaf i drafod y mathau o wasanaethau y gall fferyllfeydd gyflwyno yn uniongyrchol i gymryd ychydig o bwysau oddi ar feddygon teulu ac ysbytai. Gallant – ac maent yn awyddus i wneud llawer mwy.

Mae’r GIG yn golygu cymaint i ni i gyd. Gadewch i ni ei roi ar seiliau fwy cadarn.