Rhun ap Iorwerth yn galw ar y Prif Weinidog ganiatáu pleidlais rydd i weinidogion Llywodraeth Cymru ar enw’r Cynulliad

Mae Plaid Cymru wedi gwneud un apêl olaf i’r Prif Weinidog i ganiatáu pleidlais rydd i weinidogion Llafur Cymru ar enwi Cynulliad Cenedlaethol Cymru pan fydd yn cael ei drafod heddiw.

Yn wreiddiol, bu rhyw gonsensws gyda’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn nodi ei gefnogaeth i’r enw ‘Senedd’ Cymraeg yn unig yn ystod ei ymgyrch arweinyddol.Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ers hynny y byddant yn chwipio gweinidogion i gefnogi gwelliant a gyflwynwyd gan y Prif Weinidog blaenorol a’r meinciwr cefn Llafur presennol, Carwyn Jones, i ollwng yr enw Cymraeg yn unig a ddefnyddir yn helaeth eisoes.

Wrth siarad cyn y ddadl ar y Mesur Senedd ac Etholiadau heddiw, meddai dirprwy Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AC fod Plaid Cymru yn cefnogi’n gryf yr enw Senedd fel yr enw swyddogol yn nwy brif iaith Cymru gan nodi bod y Gymraeg yn perthyn i holl bobl Cymru, p’un a ydyn nhw’n siarad yr iaith ai peidio.

Dywedodd Mr ap Iorwerth, er bod y mater yn mynd ‘y tu hwnt i wleidyddiaeth plaid’, ei bod yn bryd ‘cymryd perchnogaeth’ o un enw sy’n ‘perthyn i bob un ohonom’.

Anogodd y Prif Weinidog ‘ar yr unfed awr ar ddeg’ i ganiatáu i weinidogion Llywodraeth Cymru gael ‘pleidlais rydd’ ar y mater.

Meddai Rhun ap Iorwerth AC, dirprwy arweinydd Plaid Cymru,

“Lle bu consensws yn wreiddiol, mae Llywodraeth Cymru bellach yn cefnogi gwelliant a gyflwynwyd gan y Prif Weinidog blaenorol a’r meinciwr cefn Llafur presennol, Carwyn Jones, i ollwng yr enw Cymraeg yn unig a ddefnyddir yn helaeth eisoes.

“Mae’n nawddoglyd tybio na fydd y rhai nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg yn deall yr enw Senedd – enw sy’n cael ei ddefnyddio’n barod. Ar ben hynny, os yw’n fater i’r Aelodau, fel mae’r Prif Weinidog yn dadlau, oni fyddai’n iawn felly i ganiatáu pleidlais rydd i’w Weinidogion ar y mater?

“Er bod hwn yn fater sy’n mynd y tu hwnt i wleidyddiaeth plaid, rwy’n apelio ar y Prif Weinidog ar yr unfed awr ar ddeg i ddangos hyder yng ngallu pobl Cymru, pa bynnag iaith y maent yn ei siarad. Dylai pobl allu cymryd perchnogaeth o un enw sy’n perthyn i bob un ohonom.

“Gadewch i ni yn hytrach fod yn hyderus yn ein hunain, gan uno’r genedl y tu ôl i’r enw sy’n eiddo i bawb waeth beth fo’u hiaith, yn adlewyrchiad o’n treftadaeth a gwawr math newydd o ddemocratiaeth. Dyma ein Senedd, enw unigryw ar gyfer Senedd unigryw.