Rhun ap Iorwerth yn cynnal trafodaeth ynglŷn â gofal ysbyty i cleifion dementia

Ddydd Llun, y 10 fed o Fehefin, mae Rhun ap Iorwerth, AC dros Ynys Môn, yn cynnal trafodaeth o amglych bwrdd ynglŷn â gofal ysbyty i bobl sy’n byw â dementia.

Cynhelir y drafodaeth ford gron yng Nghanolfan Ebeneser, Llangefni, ac mae’n agored i bawb sy’n byw yn yr ardal sydd â phrofiad – da neu ddrwg – o ofal ysbyty i rywun sy’n byw â dementia. Defnyddir yr wybodaeth hon i wneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar sut i wella ansawdd gofal dementia mewn ysbytai ledled Cymru, rhywbeth sydd â’r potensial i effeithio ar fywydau miloedd o bobl.

Dangosodd tystiolaeth fod person sy’n byw â dementia ar ei fwyaf agored i niwed yn aml pan fo’n mynd i ysbyty. Gall eu hiechyd ddirywio’n gyflym ar ôl mynd i ysbyty.

Gall arhosiad diangen o hirfaith mewn ysbyty ei gwneud hi’n fwy tebygol i’r person golli’i sgiliau byw’n annibynnol, megis gwisgo amdano neu fwyta heb gymorth. Gall diffyg dealltwriaeth o ddementia ymysg staff meddygol hefyd gael effaith andwyol sylweddol ar brofiad y claf.

Dywed Rhun ap Iorwerth, AC dros Ynys Môn:

“Pan fo’r person rydych yn ei garu’n mynd i ysbyty, mae’n hanfodol bwysig eu bod yn profi’r gofal gorau un. Mae arnom angen gwneud mwy ar fyrder i gynorthwyo pobl sy’n byw â dementia yn ystod eu cyfnod mewn ysbyty, ac mae hynny’n dechrau drwy wrando ar brofiadau fy etholwyr ac ymateb i’w pryderon. Rwyf yn gweithio’n agos ag aelodau eraill o’r Grŵp Trawsbleidiol ar ddementia i ganfod datrysiadau i’r mater iechyd hanfodol hwn.”

Mae Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Dementia yn addo gweithredu i wella gofal ysbyty i bobl sy’n byw â dementia[1].

Mae’r Grŵp Trawsbleidiol ar Ddementia yn cynnal ymchwiliad i gasglu tystiolaeth gan bobl ledled Cymru i ddeall cyflwr presennol gofal ysbyty i bobl sy’n byw â dementia. Byddant yn defnyddio’r dystiolaeth hon i wneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau y gellir eu cyflawni mewn ysbytai ledled Cymru.

Os oes gennych chi neu’ch anwylyd brofiad o ofal ysbyty yn gysylltiedig â dementia, fe hoffai Rhun ap Iorwerth glywed gennych ar yr 10fed o Fehefin yn y ford gron yng Nghanolfan Ebeneser, Bridge Street, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7PN. I ganfod mwy o wybodaeth ac i neilltuo lle i chi’ch hun, cysylltwch, os gwelwch yn dda, â Sophie Douglas ar 02920 475580 neu anfonwch e-bost at Sophie.Douglas@alzheimers.org.uk