Rhun ap Iorwerth yn cynnal cyfarfod cyhoeddus i drafod dyfodol Amlwch

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth yn cynnal cyfarfod cyhoeddus i drigolion Gogledd Ynys Môn wythnos nesaf, er mwyn trafod syniadau ar gyfer dyfodol yr ardal am ei bod nhw wedi dioddef niwed economaidd sylweddol yn ystod y misoedd diwethaf.

Bydd AC yr Ynys yn cynnal Cyfarfod Cyhoeddus yn Neuadd Goffa Amlwch ddydd Iau, Mawrth 14eg am 6pm, ac mae’n gwahodd y gymuned leol i ddod draw er mwyn rhannu eu syniadau ar gyfer dyfodol gogledd yr ynys.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Rwyf wedi gofyn yn benodol i Lywodraeth Cymru gefnogi datblygiad economaidd ar yr ynys, ac yn enwedig y gogledd yn dilyn cyhoeddiadau Horizon a Rehau, gan fod hwn yn faes sydd wedi cael ei daro gan un ergyd economaidd ar ôl y llall yn ddiweddar.

“Mae’n amlwg bod angen i ‘Ogledd Ynys Môn, ac yn wir yr Ynys yn gyfan weld buddsoddiad ychwanegol i’r economi yma, i wneud iawn am yr hyn sy’n cael ei golli, a dyna pam yr wyf yn cynnal y cyfarfod cyhoeddus yma, i glywed yn uniongyrchol gan y bobl am ei syniadau nhw am sut a ble dylwn i ganolbwyntio fy ymdrechion.

“Mae arnom angen buddsoddiad sylweddol mewn cynlluniau adfywio ac mewn prosiectau arloesol ar draws Ynys Môn, ond yn enwedig yng ngogledd yr ynys ac ardal Amlwch. Mae angen i ni weld Lein Amlwch yn cael ei ailagor, mae angen inni weld buddsoddiad i gysylltu parth ynni morol Morlais, ac mae angen inni weld cefnogaeth i’r arloeswr ynni adnewyddadwy morol Minesto. “