Rhun ap Iorwerth yn cynnal casgliad calendr adfent o chwith

Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, unwaith eto wedi lansio Calendr Adfent o Chwith yn ei swyddfa yn Llangefni, ac mae wedi bod yn gweithio gydag ysgolion yr ynys wrth iddynt sefydlu eu casgliadau ei hunain dros gyfnod y Nadolig.

Yn ystod misoedd yr haf rhannodd Sefydliad y Trussell Trust 48,000 o becynnau bwyd brys allan yng Nghymru, ac mae’r angen am gymorth gan y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn sicr o gynyddu wrth i’r Nadolig nesáu.

Mae Mr ap Iorwerth wedi rhedeg Calendr Adfent o Chwith yn ei swyddfa ers nifer o flynyddoedd, ac yn hytrach na chael rhywbeth o’ch calendr Adfent arferol, byddwch yn dod ag eitem o fwyd neu ddeunyddiau ymolchi i’w roi yn eich man gwaith neu i mewn i’ch ysgol bob dydd a fydd wedyn yn cael ei roi i’r banc bwyd lleol.

Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn hefyd wedi gweithio gydag Ysgol Gyfun Llangefni, Ysgol Syr Thomas Jones ac Ysgol David Hughes, yn ogystal ag ysgolion cynradd yn ardal Amlwch, i’w helpu i sefydlu eu casgliadau adfywio eu hunain.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Ceisiwch roi yn hael, a rhoi unrhyw fwydydd neu gynnyrch ymolchi a fyddai yn ddefnyddiol i eraill dros y Nadolig hwn. Bydd fy swyddfa yn cynnal calendr adfent o chwith dros y cyfnod cyn y Nadolig er mwyn ei rhoi i bobol ar adeg pan fydd mwy o angen am help nag erioed.

“Dros yr ychydig wythnosau diwethaf rwyf wedi bod yn gweithio gydag ysgolion ar yr ynys i lansio Calendr Adfent o Chwith yn eu hysgolion, ble bydd disgyblion ac athrawon yn gallu dod â bwyd i’r ysgol bob dydd yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig.

“Mae hwn yn wasanaeth hanfodol, ond yn anffodus mae bwydydd a nwyddau ymolchi yn hollol angenrheidiol i lawer gormod o bobl, a rheiny yn bobol sydd yn lleol iawn i ni.”