Rhun ap Iorwerth yn croesawu cyllid ar gyfer potensial Hydrogen yn Ynys Môn

Mae Rhun ap Iorwerth, Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn, wedi croesawu’r cyhoeddiad bod £4.8 miliwn wedi ei glustnodi i’r Hwb Hydrogen yng Nghaergybi yng nghyllideb Llywodraeth y DU yr wythnos yma.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Rwy’n falch iawn o glywed bod arian ychwanegol wedi’i ddarparu ar gyfer y prosiect hwn. Mae hyn yn newyddion gwych i Ynys Môn. Bron yn union flwyddyn ar ôl imi arwain dadl yn y Senedd, yn nodi fy ngweledigaeth o wir botensial ynni Hydrogen, gwelwn y manteision hynny’n cael eu gwireddu ar Ynys Môn.

“Roedd Llywodraeth Cymru o blaid y cynnig hwnnw a gyflwynwyd gennyf y llynedd, ac wedi hynny rhoddodd gefnogaeth a chyllid i ddatblygu prosiect Caergybi.

“Rwy’n falch iawn o weld y symudiad sylweddol hwn ymlaen ar ôl cefnogi ac annog y prosiect hwn o’r cychwyn cyntaf. Diolch i waith yr arloeswr ynni hydrogen Guto Owen a thîm Menter Môn am wneud i hyn ddigwydd.

“Mae’n dda gweld arloesedd ynni ar waith, ac rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi ymrwymo i sefydlu pencadlys cwmni ynni cenedlaethol newydd, Ynni Cymru, yma ar yr ynys, gan roi rôl allweddol i Ynys Môn wrth gyflwyno ynni gwyrdd ledled Cymru am flynyddoedd i ddod. Mae’r prosiect hydrogen hwn yng Nghaergybi yn ymwneud â chynnig swyddi gwyrddach a thymor hwy am genedlaethau i ddod.”

Diwedd