Rhun ap Iorwerth yn Cefnogi’r Ymgyrch i Wella’r Gofal i Bobl â Salwch Terfynol

Mae AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wedi addo y bydd yn hyrwyddo pryderon pobl leol sydd â salwch terfynol drwy gefnogi ymgyrch Marie Curie sy’n galw am yr hawl i bawb gael gofal lliniarol pan fydd ei angen arnynt.

Ymunodd Rhun ap Iorwerth AC ag Uwch-gynorthwyydd Gofal Iechyd Marie Curie, Tracy Tucker, yn Nhŷ Hywel ym Mae Caerdydd ddydd Mawrth 17eg Tachwedd i gefnogi ymgyrch prif elusen y DU sy’n cynorthwyo pobl sy’n byw â salwch terfynol a’u teuluoedd.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AC: “Mae’r gwaith mae Nyrsys Marie Curie yn ei wneud i gefnogi a gofalu am bobl sydd â salwch terfynol yn wirioneddol anhygoel. Rydw i’n falch o gael cefnogi ymgyrch yr elusen i wneud yn siŵr nad yw pobl y mae angen gofal lliniarol arnyn nhw yn colli’r cyfle ar yr adeg y mae angen y gofal hwnnw arnyn nhw fwyaf.”

Mae’r ymgyrch hon ar waith o ganlyniad i gyhoeddiad Marie Curie mai dim ond hanner y bobl dros 50 oed yng Nghymru – sy’n 1.2 miliwn o bobl – sy’n hyderus y byddan nhw’n cael y gofal y mae ei angen arnyn nhw tua diwedd eu bywydau.

Ar hyn o bryd, mae un person ym mhob pedwar yn colli’r cyfle i gael gofal lliniarol gan nad yw eu hanghenion yn cael eu cyfeirio at y gwasanaethau cywir. Mae Marie Curie yn galw ar Lywodraeth Cymru i adeiladu ar y gwaith da sydd wedi cael ei wneud eisoes i wella gofal lliniarol a gofal diwedd oes o ansawdd uchel i bawb sydd â salwch terfynol.

Mae Rhun ap Iorwerth hefyd wedi addo helpu i sicrhau bod unrhyw etholwr sydd â salwch terfynol yn gwybod pa wasanaethau sydd ar gael a pha fudd-daliadau y mae ganddyn nhw’r hawl i’w cael, a bydd yn cydweithio â gwasanaethau lleol y GIG i wella ansawdd gofal lliniarol a’r mynediad ato i’r bobl y mae ei angen arnyn nhw.

Yn ardal Ynys Môn mae gan Marie Curie tua 15 o Nyrsys yn gweithredu un gwasanaeth i sicrhau bod pobl sy’n byw â salwch terfynol yn cael y gofal a’r gefnogaeth y mae eu hangen arnyn nhw. Fel arfer, mae Nyrsys Marie Curie yn darparu gofal dros nos rhwng 10pm a 7am.

Dywedodd Simon Jones, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus Marie Curie yng Nghymru: “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Rhun ap Iorwerth am gefnogi ymgyrch Marie Curie. Mae llawer wedi cael ei wneud yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf i wella gofal lliniarol ond mae’n rhaid i ni i gyd barhau i weithio er mwyn sicrhau bod pawb sydd â salwch terfynol, beth bynnag yw’r salwch a ble bynnag maen nhw’n byw, yn cael gofal o ansawdd uchel sydd ei angen arnyn nhw ac y maen nhw’n ei haeddu.”

Os oes gennych chi neu rywun sy’n agos atoch chi salwch terfynol, gallwch ffonio Llinell Gymorth Marie Curie ar 0800 090 2309 ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm neu ewch i mariecurie.org.uk/help. Hefyd, gallwch rannu profiadau a siarad â phobl sydd mewn sefyllfa debyg i chi ar gymuned Marie Curie .