Pedwar enwebiad i ddod yn ymgeisydd Seneddol Plaid Cymru Ynys Môn.
Mae Ynys Môn yn sicr o gael ymgeisydd rhagorol i fod yn Aelod Seneddol Plaid Cymru wedi i bedwar unigolyn gynnig eu henwau. Bydd Aled ap Dafydd, Carmen Smith, Carwyn Jones a Vaughan Williams yn gofyn am gefnogaeth aelodau’r Blaid ar yr ynys mewn cyfarfod arbennig yn Llangefni ar Medi 14eg.
Dywedodd yr AC dros yr Ynys, Rhun ap Iorwerth:
“Gyda gwleidyddiaeth Prydain mewn argyfwng a San Steffan ar chwal, mae’n bwysicach nac erioed bod gennym gynrychiomydd cryf i frwydro drosom, ac yn Aled, Carwyn, Carmen a Vaughan rydym yn sicr o gael hynny.
“Rydw i’n ddiolchgar i’r pedwar am gynnig eu henwau a thrwy hynny ganiatau ymgyrch a dewis o safon mor uchel. Rwy’n edrych ynlaen am drafodaeth ddifyr a phwysig am ddyfodol Môn a dyfodol Cymru, ac wrth gwrs byddwn i gyd yn uno wedyn i gefnogi’r un gaiff ei ddewis, wrth i ni weithio dros gael cynrychiolydd Plaid Cymru i godi llais drosom yn Llundain unwaith eto.”