Rhun ap Iorwerth AC yn gwisgo pinc i gefnogi ymchwil hanfodol Breast Cancer Now

Mae Rhun ap Iorwerth, AC Ynys Môn, wedi gwisgo pinc i roi ei gefnogaeth i ddigwyddiad codi arian blaenllaw Breast Cancer Now, a fydd yn gweld miloedd o bobl ledled y DU yn ychwanegu darn o binc i’w gwisgoedd ar ddydd Gwener 20 Hydref a chodi cronfeydd hanfodol ar gyfer ymchwil canser y fron.

Mae Mr ap Iorwerth yn annog ei etholwyr ym Môn i ymuno ag ef, a chofrestru i gymryd rhan yn nigwyddiad codi arian pinc mwyaf y DU. Mae’r digwyddiad, sy’n digwydd yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron ym mis Hydref, yn ei 16eg flwyddyn ac wedi codi dros £30 miliwn hyd yn hyn ar gyfer ymchwil achub bywyd Breast Cancer Now.

Gall unrhyw un gymryd rhan – yn ysgolion, gweithleoedd neu gymunedau. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw gwisgo rhywbeth pinc, neu gynnal digwyddiad pinc yn y cartref, gwaith neu ysgol, a rhoi rhodd i Breast cancer Now. Beth bynnag a wnewch, rydych chi’n helpu’r elusen i gyflawni ei nod: os ydym i gyd yn gweithredu nawr, erbyn 2050 bydd pawb sy’n datblygu canser y fron yn byw.

Mae Mr ap Iorwerth AC yn parhau â’i gefnogaeth i fenywod y mae canser y fron yn effeithio arnynt trwy ymuno ag ACau ledled Cymru i fod yn Llysgennad Breast cancer Now, sy’n hyrwyddo materion canser y fron ym Môn ac yn genedlaethol, gan weithio tuag at ddiwrnod y bydd y clefyd yn rhoi’r gorau i gymryd bywydau.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AC:

“Canser y fron yw’r canser mwyaf cyffredin yn y DU. Bob blwyddyn, mae rhyw 2,600 o ferched yng Nghymru yn cael diagnosis o ganser y fron ac yn anffodus mae 600 o ferched yn colli eu bywydau i’r afiechyd. Dyna pam yr ydw i’n annog pawb ym Môn i gymryd rhan mewn gwisgo pinc ar ddydd Gwener 20 Hydref. Mae’n ffordd hwyliog a hawdd i gefnogi ymchwil hanfodol Canser y Fron, a helpu i atal canser y fron i gymryd bywydau’r rhai yr ydym yn eu caru.

“Mae canser y fron yn effeithio ar gymaint o bobl yn Ynys Môn felly fel Llysgennad Canser y Fron, rwy’n falch o gymryd rhan mewn yn gwisgo pinc i godi ymwybyddiaeth o effaith y clefyd yn lleol, a chefnogi ymchwil hanfodol Breast Cancer Now. Rwy’n gobeithio y bydd pobl ym Môn yn ymuno â mi ac yn gwisgo pinc ar ddydd Gwener 20 Hydref. “