Rhun ap Iorwerth yn cefnogi ymgyrch Gluten Freevolution Coeliac UK

Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wedi ymuno gyda Coeliac UK, yr elusen i bobl gyda chlefyd coeliag, i helpu i lansio ymgyrch ‘Gluten Freevolution’ yr elusen. Ei nod yw cynyddu ymhellach yr ystod o opsiynau o fwyd diogel heb glwten sydd ar gael y tu allan i gartrefi ar gyfer yr 1.3miliwn o bobl Prydain sydd ar ddeiet heb glwten.
 
Dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Rydw i’n falch o allu dangos fy nghefnogaeth i’r ymgyrch yma. Gwn pa mor anodd y gall fod i rai ar ddeiet heb glwten i ddod o hyf i fwyd addas pan mae nhw’n bwyta allan a pha mor bwysig ydy hi iddyn nhw gael hyder yn yr hyn sy’n cael ei ddarparu. Mi fyddwn i’n annog busnesau bwyd i ddarparu ar gyfer y gwerth £100m o ddarpar gwsmeriaid yma.”

Mae’r ymgyrch Gluten Freevolution yn cychwyn yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Coeliag (8 -14 Mai 2017) gyda’r nod o amlygu’r galw cynyddol am well diogelwch, dewis ac argaeledd pan yn bwyta allan, bwyd heb glwten i fynd ac i annog arlwywyr yn y sector breifat a chyhoeddus i ddarparu bwyd heb glwten sydd yn ddiogel o draws-halogiad. 
 
www.coeliac.org.uk/glutenfreevolution.