Rhun ap Iorwerth AS yn siomedig hefo cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am y gwasanaeth awyr gogledd-de

Mae’r Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth AS, wedi mynegi ei siom gyda chyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw am y cyswllt awyr rhwng y gogledd a’r de.  Dywedodd:

 

“Rydw i’n hynod siomedig yn y cyhoeddiad yma gan Lywodraeth Cymru ac mae fy meddwl i heddiw ar y staff sydd yn mynd i fod yn colli eu gwaith. 

 

“Rydw i wedi dangos fy mod i yn realistig ynglŷn a’r heriau efo’r gwasanaeth awyr – y ffaith bod llai o bobl angen teithio ar gyfer busnes yn sgil y pandemig a’n pryder cynyddol am newid hinsawdd.  Ond, fy nghwestiwn i i’r Llywodraeth oedd: os nad yr awyren, yna beth fydd y Llywodraeth yn gynnig yn ei le, a lle fyddan nhw’n buddsoddi i sicrhau cysylltedd cyflymach rhwng y gogledd a’r de, drwy reilffordd yn arbennig?.  Yr ateb, yn amlwg, yw dim! 

 

“Dylai pob ceiniog o’r arian oedd yn cael ei wario ar yr awyren fynd ar wella cysylltedd trafnidiaeth de-gogledd, ond dyw’r ymrwymiad hwnnw ddim yma.  Mae hyn yn gic go iawn i ymdrechion i’n uno ni fel cenedl drwy’r system drafnidiaeth ac mi fydda i a Phlaid Cymru yn parhau i wneud yr achos dros hynny.”