Rhun ap Iorwerth AS yn croesawu’r buddsoddiad £20m i ddatblygu ffatri gaws yn Ynys Môn a chreu 100 o swyddi ar yr ynys.

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad heddiw am ddatblygiad £20m i greu ffatri gaws Mona Island Dairy yn Ynys Môn, gan greu 100 o swyddi i’r ynys, dywedodd Rhun ap Iorwerth AS:

 

“Rydw i’n croesawu’r newyddion yn fawr. Rydw i wedi galw’n gyson ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi yn y sector fwyd ym Môn, yn cynnwys y posibilrwydd o greu parc busnes cynhyrchu bwyd ar yr ynys.

 

“Rwy’n gobeithio gallu defnyddio datblygiad Mona Island Dairy fel sbardun pellach i wthio am ddatblygu’r sector hon, yn adeiladu ar arbennigedd sydd eisoes yn bodoli mewn nifer fawr o gwmniau bwyd ym Môn, i’w helpu i dyfu a chreu swyddi. Byddaf yn parhau â’r sgyrsiau yma gyda Gweinidogion yn yr wythnosau nesaf.”

Stori’n llawn: Cheese plant investment on Anglesey could create 100 jobs – North Wales Live (dailypost.co.uk)