Rhun a RABI yn cefnogi ffermwyr lleol ar wythnos welis

Mae hi’n ‘Wythnos Welis’ a heddiw bu Rhun ap Iorwerth yn ymweld â fferm laeth Graig Lwyd Ganol ym Mhontrhydybont, sydd fel pob fferm laeth yn gorfod brwydro trwy’r heriau difrifol sy’n wynebu’r diwydiant ar hyn o bryd oherwydd y prisiau isel a delir am laeth. Roedd Rhun yno i godi ymwybyddiaeth o’r gwaith y mae’r Sefydliad Brenhinol dros Les Amaethyddol (RABI) yn ei wneud i helpu ffermwyr sydd mewn trafferthion ariannol.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Mae’n dod yn fwyfwy anodd i’n ffermwyr ni wneud bywoliaeth drwy roi bwyd ar ein bwrdd. Er gwaethaf cael buddsoddiad yn ddiweddar mewn parlwr godro newydd, mae hon yn fferm deuluol dan straen enfawr. Byddant yn goroesi oherwydd gwaith caled a dyfalbarhad, a gobeithio y bydd yn elwa pan fydd y diwydiant yn dechrau codi, ond mae’n hanfodol i’n ffermwyr gael cefnogaeth barhaus eu hundebau ac elusennau megis RABI wrth i ni geisio gweithio tuag at wella’r sefyllfa.”