“Rhaid trin amaeth a chefn gwlad fel trysor, nid bwrn” – Rhun ap Iorwerth

Yn ystod ymweliad i Fferm y Ffridd yn Llandegai heddiw gyda Dafydd Wigley, dywedodd yr ymgeisydd arweinyddol Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, ei fod yn awyddus i arwain llywodraeth Plaid Cymru a fyddai’n sylweddoli mai trysor, nid bwrn, yw ein cefn gwlad.

Yn trafod ei weledigaeth ar gyfer amaethyddiaeth a Chymru wledig gyda ffermwyr lleol a chynrychiolwyr o’r diwydiant, dywedodd Rhun:

“Mae’n rhan greiddiol o fy nghenedlaetholdeb i weld Cymru fel un, yn drefol a gwledig, ac mae fy ngweledigaeth i yn cynnwys adnabod ac ateb anghenion Cymru wledig. Rhaid sicrhau cysylltiadau trafnidiaeth a digidol, cefnogi menter ac adlewyrchu anghenion cefn gwlad wrth arloesi mewn addysgm, iechyd a gofal. Trysor, nid bwrn yw cefn gwlad, a rhaid i benderfyniadau llywodraeth adlewyrchu hynny.”

Dywedodd bod Brexit yn fygythiad enfawr i gefn gwlad Cymru ac i amaeth yn arbennig.

“Fel arweinydd Plaid Cymru byddaf yn brwydro am y fargen orau i ffermwyr yn wyneb her Brexit.

“Rwyf yn glir bod angen rhoi cyfle i bobl bleidleisio ar adael neu aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn seiliedig ar yr hyn sy’n cael ei gynnig wedi trafodaethau Llywodraeth y DU, sef dim cytundeb neu gytundeb wael. Rhaid rhoi dewis i’r bobl ar ddiwedd y broses hon – dyna beth yw democratiaieth go iawn.

“Ond os mai gadael fyddw n ni, rhaid sicrhau bod amaeth yng Nghymru yn cael y gefnogaeth orau posib, a bod Llywodraeth Cymru’n deall y peryglon o symud yn rhy gyflym at atal taliadau uniongyrchol.”

Mater arall sy’n bwysig i’r diwydiant amaeth yw’r gallu i ychwanegu gwerth i gynnyrch drwy ei frandio fel cynnyrch Cymreig o safon. Yn y Sioe Frenhinol yr haf hwn tynnodd Rhun sylw at y ffaith bod brandio’r neuadd fwyd wedi cael ei newid i frand Prydeinig yn hytrach na brand Cymreig, ac mae’n addo datblygu Brand cryf ag eglur i Gymru:

“Tra bod brandio lleol yn dod yn fwyfwy poblogaidd mewn gwledydd eraill, digalon oedd gweld hunaniaeth cynnyrch cefn gwlad Cymru yn cael ei guddio ar un o’r llwyfannau mwyaf pwysig iddo. Fel Prif Weinidog, byddwn yn datblygu brand clir Cymreig ac yn gwrthod Prydeineiddio.

“Mae’n hen bryd i ni gael Llywodraeth yng Nghymru sy’n ymfalchio yn ein cynnyrch, yn gwneud mwy i’w hyrwyddo ar lwyfan cenedlaethol, ac sy’n fodlon sefyll yn erbyn ymdrechion Llywodraeth Prydain i wanhau ein hunaniaeth.”