Pryder Plaid Cymru am effaith cau swyddfeydd Cyllid a Thollau

Canoli swyddi yn anghywir mewn egwyddor ac yn ymarferol: Rhun ap Iorwerth yn galw am ledaenu swyddi llywodraeth ar draws y wlad

Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn brwydro i wyrdroi’r penderfyniad i gau swyddfeydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) ar draws Cymru, medd Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Rhun ap Iorwerth.

Ar ôl cyflwyno cwestiwn brys i Weinidogion ym Mae Caerdydd, dywedodd Rhun ap Iorwerth AC y byddai’ cau’r swyddfeydd HMRC yma nid yn unig yn ergyd i weithwyr HMRC, ond byddai hefyd yn taro’r gadwyn gyflenwi.
Cyhoeddwyd wythnos diwethaf y byddai swyddfeydd HMRC yn Wrecsam, Porthmadog ac Abertawe yn cau. Mae’r swyddfa yn Wrecsam yn cyflogi oddeutu 350 o staff, Abertawe 300 a swyddfa Porthmadog, sy’n gartref i ganolfan alw iaith Gymraeg HMRC, yn cyflogi oddeutu 20.

Gyda phob 100 o swyddi cyhoeddus yn cefnogi 30 yn y sector breifat, gallai tua 200 o swyddi ychwanegol fod mewn peryg.

Gan herio Llywodraeth Lafur Cymru am beth mae nhw’n ei wneud i frwydro yn erbyn y toriadau swyddi yma, dywedodd Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi Rhun ap Iorwerth:

“Roedd cyhoeddiad yr wythnos diwethaf am gau safleoedd Wrecsam, Abertawe a Phorthmadog yn ergyd drom i bron i 800 o weithwyr, ac rydym yn ofni y gallai swyddi eraill gael eu colli mewn cwmnïau preifat sy’n cyflenwi’r swyddfeydd hyn.

“Mae hi’n fater pwysig o egwyddor yn ogystal â phwysigrwydd economaidd fod cyflogaeth llywodraeth ddim yn cael ei ganoli, ond yn hytrach yn cael ei ledaenu ar draws y boblogaeth.

“Mae pobl Cymru yn awr yn disgwyl i Lywodraeth Cymru weithredu ere u budd, i frwydro dros y swyddi hyn, ac i fynnu nad yw gallu staff swyddfa dreth yng Nghrymu i ddelio gyda materion treth busnesau a dinasyddion Cymru yn cael ei ddiraddio.

“Mae’r newyddion fod yr holl swyddfeydd treth yng Nghymru y tu allan i Gaerdydd i gau erbyn 2021 yn gondemniad damniol o flaenoriaethau’r Torïaid. Dylai’r Llywodraeth Lafur sefyll i fyny dros fuddiannau Cymru a’i gwneud hi’n flaenoriaeth i roi’r achos i wyrdroi’r penderfyniad yma.”