Prif Weinidog Cymru’n cytuno i ymweld â phorthladd Caergybi i drafod y potensial economaidd

Bydd Rhun ap Iorwerth AS yn cwrdd â Mark Drakeford i drafod y buddsoddiad a’r gefnogaeth sydd eu hangen i wireddu potensial y porthladd.

Yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog yr wythnos hon, manteisiodd Rhun ap Iorwerth, Aelod o Senedd Ynys Môn ar y cyfle i wahodd Mark Drakeford i borthladd Caergybi i weld drosto’i hun pa fuddsoddiad sydd ei angen i sicrhau dyfodol disglair i borthladd Caergybi.

Pwysleisiodd Rhun ap Iorwerth fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i annog Llywodraeth Iwerddon i gofio pwysigrwydd, ac i hyrwyddo’r croesfannau uniongyrchol o Iwerddon i Gymru, drwy Gaergybi – y porthladd prysuraf yng Nghymru, yn dilyn cyhoeddi map gan Lywodraeth Iwerddon yr wythnos diwethaf oedd yn dathlu agor 44 o groesfannau o Iwerddon i gyfandir Ewrop.

Yn ei gwestiwn i’r Prif Weinidog, dywedodd Rhun ap Iorwerth AS:

“Wrth i effaith Brexit barhau i achosi heriau mawr yng Nghaergybi, mae cyfleoedd mawr hefyd – cyfleoedd newydd y gallem fod yn eu dilyn, a’r pwysicaf o’r rheini yw cyfleoedd i ddatblygu Caergybi fel porthladd i wasanaethu’r datblygiad nesaf mewn ynni gwynt ym môr Iwerddon. Ac yn y cyd-destun hwnnw, a gaf wahodd y Prif Weinidog i ymweld â phorthladd Caergybi i weld drosto’i hun pa fuddsoddiad sydd angen ei sicrhau yn y porthladd cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau, er gwaetha’r heriau’r ydym yn eu wynebu, y gall y dyfodol fod yn un disglair i Gaergybi a’r gweithwyr yno?”

Yn ei ymateb, cadarnhaodd y Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfarfod yn hwyrach ymlaen yr wythnos yma gyda Gweinidogion o Lywodraeth Iwerddon, lle byddant yn trafod cyfleoedd a’r potensial i’r ddwy wlad weithio ar y cyd.

Yn ei ymateb i gwestiwn Rhun ap Iorwerth, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS:

“Rwy’n ymwybodol, wrth gwrs, o’r heriau sy’n wynebu porthladd Caergybi. Byddwn yn fwy na pharod i ddychwelyd i Gaergybi unwaith eto i siarad â phobl yno. Rwy’n cytuno, ac rwyf wedi darllen erthygl gan yr Aelod yr wythnos hon hefyd, a oedd yn canolbwyntio ar y cyfleoedd sy’n bodoli yn Caergybi yng nghyd-destun ynni adnewyddadwy—ynni gwynt—a defnyddio’r porthladd i’n helpu i greu’r economi werdd honno yr ydym am ei gweld yma yng Nghymru. A byddwn i’n fwy na bodlon, pan fydd y cyfle’n codi, i ddod i Gaergybi ac i drafod y posibiliadau sydd ar gael.”

DIWEDD.