Pob Plentyn yn Aelod o’r Llyfrgell

Lansiwyd ‘Pob Plentyn yn Aelod o’r Llyfrgell’ ddoe ym Môn, sef menter i annog plant Cymru i ddefnyddio’u llyfrgelloedd.

Iolo Williams yw wyneb cyhoeddus y lansiad yn Genedlaethol, a ddoe ymunodd Rhun ap Iorwerth AC Ynys Môn yn yr hwyl yn Llyfrgell Llangefni.

Bu Iolo Williams yn Llyfrgell Caergybi yn y bore gyda phlant blwyddyn 4 Ysgol Santes Fair, tra cafodd plant blwyddyn 4 Ysgol y Graig y pleser o wrando ar hanes ei anturiaethau fel cyflwynydd teledu yn teithio’r byd, a’r diolch yr oedd yn ei roi i lyfrau am yr ysbrydoliaeth a’r wybodaeth i ddilyn gyrfa.

Derbyniodd pob plentyn gerdyn llyfrgell cyn cael cyfle i chwilio am lyfrau i’w benthyg, a chreu bwyd adar gydag uwd a chnau a lard!

Dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Mae’n llyfrgelloedd yn adnoddau pwysig i blant ac oedolion r’un fath, a heddiw maen nhw’n fannau mor groesawgar, lliwgar, cynnes a chlyd – y lle delfrydol i ymgolli mewn llyfr!”