Ein haddewid i Fusnesau Bach

• Cefnogi mwy na 80,000 o fusnesau bach a chanolig trwy dorri trethi busnes yng Nghymru a chael gwared ar drethi busnes yn gyfan gwbl i 70,000 o gwmnïau gan roi hwb i’r stryd fawr.

• Sicrhau bod o leiaf 70% o gontractau cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu rhoi i fusnesau yng Nghymru gan greu 40,000 o swyddi ychwanegol.

• Creu WDA i’r 21fed ganrif – corff a fydd yn gwerthu Cymru, ein cynnyrch a’n syniadau i’r byd.

• Ymgymryd â’r rhaglen fuddsoddi fwyaf ers i ddatganoli ddechrau ym mhob rhan o Gymru i wella’n system drafnidiaeth gyhoeddus a’n rhwydweithiau ffyrdd.

• Creu Banc Datblygu Cymreig er mwyn sicrhau digon o gredyd i fusnesau Cymreig gynnal busnes, cefnogi ehangu a chreu rhagor o swyddi yng Nghymru.

• Buddsoddi yn ein system drafnidiaeth dros Gymru gyfan yn hytrach na chlymu pob ceiniog sydd ar gael ar opsiwn afresymol o ddrud ar gyfer M4 newydd.

• Pwyso am well band-llydan a signal ffôn i Ynys Môn.