Plaid yn galw cyfarfod brys i drafod cyllideb y Llywodraeth

Mae Plaid Cymru wedi gofyn am gyfarfod brys gyda Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford, yn sgil ‘pryderon difrifol’ am doriadau i lywodraeth leol yn dilyn cyhoeddiad y gyllideb.

Meddai Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol dros yr Economi a Chyllid, Rhun ap Iorwerth AC,

“Rwyf wedi ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid, Mark Drakeford, ar frys i ofyn am gyfarfod i drafod cyllideb diweddaraf Llywodraeth Cymru.

“Mae gennym bryderon difrifol ynghylch y toriadau i Lywodraeth Leol a’r effaith ddinistriol y gallai ei gael ar Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae’r toriadau hyn yn fawr ac yn sylweddol ac yn waeth nag fyddai wedi bod yn rhesymol i unrhyw un i’w disgwyl.”

“Mae Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru ac arweinwyr y cyngor wedi mynegi pryderon dwys am y toriadau ac mae aelodau Llafur, gan gynnwys y gweinidog Hannay Blythyn, wedi beirniadu cyllideb Llafur. Fe wnaeth Alun Davies, Gweinidog arall, ymosod ar gynghorwyr, gan ddweud wrthynt i roi’r gorau i gwyno.

“Dyma gyllideb o lymder gan Lafur. Mae cynghorau yn wynebu sefyllfa lle na fyddant yn gallu darparu gwasanaethau hanfodol i’r cyhoedd. Nid yw hyn yn dderbyniol. Rwyf yn gofyn am ailystyried, ac am sicrwydd y bydd cynyddu cyllid cyngorhau yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, pe bai cyllid newydd ar gael yng nghyllideb y DU sydd eto i ddod.”

Daeth Plaid Cymru a Llywodraeth Llafur Cymru i gytundeb cyllid mis Hydref llynedd.