Galwodd llefarydd cysgodol Plaid Cymru dros yr economi a chyllid Rhun ap Iorwerth am ddatganoli pwerau dros weinyddu lles i Gymru yn ystod dadl ar dlodi a hawliau dynol yn Siambr y Cynulliad nos Fawrth.
Cyhoeddodd yr Athro Philip Alston rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dlodi difrifol a hawliau dynol, ddatganiad yn dilyn ymweliad diweddar â’r Deyrnas Unedig a oedd yn amlinellu bod bron un o bob pedwar o bobl Cymru yn byw mewn tlodi yn sgil incwm cymharol.
Roedd datganiad yr Athro Alston yn amlinellu’r rhwystrau allweddol i Lywodraeth Cymru allu lliniaru tlodi yn well yn y wlad, ac mae AC Plaid Cymru Mr ap Iorwerth wedi galw am ddatganoli pwerau lles i Gymru, am nad ydi agwedd bresennol Llywodraeth Cymru yn gweithio.
Dywedodd Mr ap Iorwerth:
“Mae Cymru’n wynebu’r gyfradd tlodi cymharol uchaf yn y Deyrnas Unedig, gyda bron un o bob pedwar yn byw mewn tlodi incwm cymharol. Mae tlodi mewn gwaith wedi tyfu dros y degawd diwethaf, er gwaethaf gwelliant sylweddol yn y gyfradd gyflogaeth ac mae 25% o swyddi yn talu llai na’r isafswm cyflog.
“Mae’n gwbl amlwg nad yw dulliau Llywodraeth Cymru o fynd i’r afael â hyn yn gweithio. Rydym wedi gweld mewn rhannau eraill o’r ynysoedd yma, y camau sy’n cael eu cymryd yng Ngogledd Iwerddon, ac yn yr Alban ac mae’n bryd i ni yma yng Nghymru i ddweud ein bod yn mynnu cael yr un lefelau er mwyn mynd i’r afael â’r tlodi sydd yn destun cywilydd i ni fel cenedl.
“Byddai rheolaeth weinyddol yn caniatáu i Lywodraeth Cymru gymryd y camau a fyddai’n lleihau’r defnydd o fanciau bwyd, yn lleihau ôl-ddyledion a phroblemau gyda thai y mae Llywodraeth Cymru yn eu hariannu, ac yn lleihau pwysau ar y gwasanaeth iechyd hefyd.
“Dydyn ni ym Mhlaid Cymru ddim yn gofyn am y pwerau yma er ein mwyn ein hunain. Yr ydym yn gofyn am y pwerau oherwydd bod pobl yn marw ac yn cael eu gwreiddio mewn tlodi. Llywodraeth Lafur sydd yn methu wrth geisio am y pwerau hynny.”