Plaid Cymru yn galw am asesiad brys o israddio gwasanaethau iechyd y gogledd orllewin

Mae gwleidyddion Plaid Cymru sy’n cynrychioli Gwynedd ac Ynys Môn yn y Senedd a San Steffan wedi galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i gynnal asesiad effaith brys a chynhwysfawr o effeithiau symud gwasanaethau fasgwlaidd i’r dwyrain, ar gleifion sy’n byw yn rhannau mwyaf gwledig y siroedd.

Daw galwad Siân Gwenllian AC, Hywel Williams AS ac AS Dwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts fis ar ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr dorri eu haddewid y byddai gwasanaeth fasgwlaidd brys byd-enwog Ysbyty Gwynedd, Bangor yn cael ei ddiogelu, tro pedol ar addewid i ddiogelu’r gwasanaeth. Mae eu galwadau wedi ei ategu gan AC Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth.

Mae’r cynrychiolwyr Plaid Cymru, sydd wedi bod yn arwain ymgyrch yn gwrthwynebu israddio gwasanaethau fasgwlaidd Ysbyty Gwynedd, bellach yn galw am adolygiad brys o effeithiau israddio y gwasanaeth ar gleifion sy’n byw yn rhannau mwyaf diarffordd y siroedd a fydd rwan yn wynebu heriau ychwanegol wrth gael mynediad at ddarpariaeth gofal brys.

Dywedodd Siân Gwenllian AC a Hywel Williams AS,

‘Rydyn ni rwan wedi cael cadarnhad ysgrifenedig gan Weinidog Iechyd Llywodraeth Lafur Cymru nad oes ganddynt unrhyw gynlluniau i gadw gwasanaethau fasgwlaidd brys yn Ysbyty Gwynedd, er gwaethaf sicrwydd cynharach y byddai’r gwasanaeth yn cael ei ddiogelu.’

‘Cafodd meddygon teulu lleol yn ein hetholaeth addewid y byddai llawdriniaeth fasgwlaidd a derbyniadau brys yn cael eu cynnal ym Mangor, gan ddarparu cefnogaeth lawn i gleifion mewnol ac chleifion brys.’

‘Mae’r cyhoeddiad diweddaraf hwn yn groes i bolisi cynharach BIPBC ac mae Llywodraeth Cymru wedi torri eu haddewid i bobl leol ar yr un pryd, tra’n bwrw ymlaen â ymgais i israddio gwasanaethau craidd yn Ysbyty Gwynedd.’

‘Os yw Llywodraeth Cymru yn parhau â chynlluniau i gael gwared â darpariaethau brys Ysbyty Gwynedd yna mae’n rhaid iddynt, yn ddi-os, gyhoeddi asesiad effaith cynhwysfawr o effeithiau symud y gwasanaethau hyn ar gleifion sy’n byw yn ardaloedd gwledig y sir.’

‘Bydd y rhai sy’n byw mewn cymunedau anghysbell, sydd eisoes yn wynebu heriau sylweddol wrth gael mynediad at ofal iechyd, yn dwyn baich symud y gwasanaeth hwn ymhellach oddi wrth eu cyrraedd, gan roi cleifion mewn perygl pellach os bydd agenda o symud gwasanaethau hanfodol i’r dwyrain yn parhau.’

Dywedodd Liz Saville Roberts AS,

‘Bydd pobl sy’n byw yng nghorneli mwyaf diarffordd fy etholaeth wledig, fel Pen Llŷn neu cymunedau arfordirol Meirionnydd, wedi eu synnu fod gwasanaethau fasgiwlar brys Ysbyty Gwynedd yn cael eu symud ymhellach i’r dwyrain i Glan Clwyd.’

‘Mae unrhyw ymgais i israddio gwasanaethau yn Ysbyty Gwynedd yn ddiffygiol ac yn dangos diffyg dealltwriaeth o ddaearyddiaeth Cymru wledig, o ystyried y pellteroedd sydd gan bobl Dwyfor Meirionnydd i deithio i gael mynediad at wasanaethau cyfredol.’

‘Mae hyn ynddo’i hun yn daith sylweddol ond wrth ddelio ag argyfyngau meddygol, mae’n annerbyniol ac yn straen diangen i’w roi ar gleifion a’u teuluoedd sydd eisioes yn poeni.’

‘Mae’r teithio ychwanegol ynghyd ag argaeledd ambiwlansys yn ein cymunedau mwyaf gwledig yn faich annerbyniol sydd yn fygythiad i iechyd cleifion a hyd yn oed yn fygythiad i fywydau mewn achosion difrifol.’

Ychwanegodd AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth,

‘Mae fy etholwyr yn dal i fod â phryderon y bydd newidiadau i wasanaethau yn cael effaith ddifrifol ar gleifion fasgiwlar – nid yn unig oherwydd y pellter ychwanegol y bydd angen iddynt deithio ond hefyd oherwydd eu bod yn ymddiried yn y gwasanaeth eithriadol sydd ar hyn o bryd yn cael ei gynnig ym Mangor.’