Plant Pentraeth yn y Cynulliad Cenedlaethol

Braf iawn oedd cael croesawu plant o Ysgol Pentraeth i’r Cynulliad Cenedlaethol yr wythnos hon. Roedd eu hetiau lliwgar yn cynrychioli rhai o’r pynciau yr ydym yn eu trafod yma. Roedd ganddynt gwestiynau da i mi am amryw o bynciau – o sut oedd rhywun yn dod yn Aelod Cynulliad i pa dîm pêl-droed dwi’n ei gefnogi, ac fe gefais innau’r cyfle i ddangos iddyn nhw pa un oedd eu sedd nhw, sedd Ynys Môn, yn y Senedd.