“Peidiwch oedi cyn gweithredu i daclo llifogydd yr A55” – Rhun ap Iorwerth

Mae Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Drafnidiaeth, Rhun ap Iorwerth AC, wedi galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i weithredu ar unwaith i daclo llifogydd ar ffordd ddeuol yr A55 ar ol i law trwm achosi problemau ar Wyl San Steffan.

Yn gynharach yn y mis, bu llifogydd ar yr un darn o ffordd sawl gwaith, ond cadarnhaodd Llywodraeth Cymru na fydd eu cynlluniau i ddraenio’r ffordd wrth Aber/Tai Meibion yn dechrau nes yn hwyr yn 2017.

Rhybuddiodd Rhun ap Iorwerth AC na fyddai’r broblem hon yn diflannu gyda mwy o dywydd gwael ar y gorwel, gan bwysleisio fod llifogydd ar y raddfa hyn nid yn unig yn cael effaith negyddol ar fusnesau a masnachwyr lleol ond hefyd yn peri bygythiad i fywyd.

Annogodd Lywodraeth Cymru i roi’r cynlluniau draenio ar waith ar unwaith ac i wneud popeth posib i leihau difrod pellach.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AC Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Drafnidiaeth:

“Unwaith eto, mae ffordd ddeuol yr A55 rhwng Bangor a Llanfairfechan ar gau, gan achosi problemau teithio difrifol. Gyda’r A5 ar gau hefyd, mae gogledd orllewin Cymru wedi ei ynysu mewn gwirionedd.

“Tra bod Plaid Cymru yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Lafur Cymru i daclo’r broblem hon, ni allwn aros nes 2017.”

Ychwanegodd:

“Mae digwyddiadau heddiw wedi ein hatgoffa fod isadeiledd trafnidiaeth gogledd Cymru wedi ei esgeuluso am lawer rhy hir.

“Mae Plaid Cymru yn benderfynol o wneud yn iawn am hyn a byddwn yn parhau i frwydro dros weithredu chwim a chyllido digonol ar gyfer ffyrdd a rheilffyrdd y rhanbarth.

“I’r rhai sydd yn poeni y byddant yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan y llifogydd, ble bynnag y byddant, gellir cysylltu a Floodline 0345 988 1188. Ar y rhif hwn gall pobl ganfod beth ydi’r risg iddynt a chofrestru i dderbyn rhybuddion.

“Rwyf hefyd yn annog pobl i gadw llygad ar wefannau Swyddfa’r Met a Chyfoeth Naturiol Cymru sy’n cael eu diweddaru’n gyson gyda gwybodaeth gyfredol.”