Pam fod Rhun eisiau bod yn “benderfynol radical” wrth weddnewid economi Cymru

Fel newyddiadurwr, rwy’n cofio dweud yn 1999 mai efallai’r mesur pwysicaf o lwyddiant datganoli fyddai’r effaith fyddai’n ei gael ar yr economi. 19 mlynedd yn ddiweddarach, yn sicr ni allwn ddweud fod datganoli wedi bod yn fwled hud.

Fodd bynnag, rydym bellach yn gallu pwyntio’n fwy cywir at Lywodraeth Cymru, yn hytrach na datganoli ei hun, fel y broblem. Hyd yn oed gyda’r pwerau cyfyngedig sydd gennym, credaf y gallai ymdrech gydlynol newydd gan weinidogion drawsnewid economi Cymru.

Rwy’n cadw at y farn wreiddiol honno am bwysigrwydd datblygu economi Cymru. Mewn gwirionedd, mae’n bwysicach nag erioed. Nid yn unig fod Cymru ddim gwell yn economaidd nag ar ddyfodiad datganoli, ond mae ein GDP cymharol wedi gostwng ymhellach o dan gyfartaleddau’r DG ac Ewrop.

Fel ymgeisydd arweinyddiaeth Plaid Cymru, nid oes angen i mi ddweud fy mod am i Gymru gymryd rheolaeth lawn o siapio ei dyfodol economaidd ei hun. Ond nid yw hyn yn nod ynddo’i hun. Y rheswm pam yr wyf am i Gymru gryfhau’n economaidd yw er mwyn codi plant allan o dlodi, i wobrwyo dyhead, i ganiatáu rhoi mwy o gymorth i’r rhai sydd ei angen, i helpu busnesau i weld Cymru fel lle i lwyddo, i wneud hon yn wlad o gyfle go iawn. Mae’n ymwneud â gweld hyder cenedlaethol a thegwch cymdeithasol yn tyfu law yn llaw â ffyniant economaidd, er lles pawb yng Nghymru.

Mae’n ymwneud â dod â swyddi gwell a mynd i’r afael a than-gyflogaeth. Mae gwell swyddi yn dod trwy well sgiliau. Mae hynny’n golygu trawsnewid addysg a sicrhau bod sgiliau’n cyd-fynd ag anghenion busnesau. Mae swyddi gwell yn golygu cyflogau gwell. Mae cyflogau gwell yn golygu derbyn mwy o drethi a sylfeini cyllidol cadarnach.

Er mwyn cyrraedd y pwynt hwn, mae angen i ni fod yn benderfynol o radical yn y ffordd yr ydym yn mynd i’r afael ag anghenion a dyheadau economaidd Cymru. Dydyd rheoli ddim yn ddigon da. Ymddengys bod gormod o hanes economaidd Cymru ddiweddar yn ymwneud â rheoli dirywiad, ond nid yw hyd yn oed yn dod â rhywfaint o lwyddiant trwy reolaeth gyson yn ddigon da. Mae angen twf gwirioneddol arnom, ehangiad go iawn o orwelion economaidd, a rhaid inni fod yn benderfynol wrth geisio cyflawni hyn ac yn ein huchelgais i lwyddo.

Yn ystod fy amser fel Gweinidog Cysgodol Economi Plaid Cymru yn y 4ydd Cynulliad, roedd nifer o faterion yn fy marn i yn dal yn berthnasol iawn heddiw: yr angen am gomisiwn seilwaith, gyda chylch gorchwyl llawer ehangach na’r comisiwn a sefydlwyd bellach gan y Lywodraeth Cymru, i arwain buddsoddiad biliwn o bunnoedd ym mlociau adeiladu ein cenedl – o gysylltiadau trafnidiaeth sy’n uno’r genedl i seilwaith digidol; fy mhenderfyniad i gynyddu cyfran y gwariant caffael yng Nghymru a gedwir o fewn economi Cymru i oddeutu 75% o’r cyfanswm, gan greu 40000 o swyddi efallai; sefydlu asiantaeth datblygu newydd sy’n edrych allan tuag at farchnadoedd allforio newydd i’n cwmnïau cynhenid a chwilio am fuddsoddiad cynaliadwy newydd; ehangu rhyddhad ardrethi busnes ac ehangu cefnogaeth ar gyfer busnes trwy Fanc Cymru cyhoeddus sy’n fwy uchelgeisiol a phellgyrhaeddol a all godi cyfalaf benthyciad ac ecwiti i fusnesau yng Nghymru.

Yn ogystal, mae’r angen sylfaenol i osod ein system addysg ar sylfaen gadarnach, ar bob lefel. O wella safonau ar draws y sectorau cynradd ac uwchradd trwy annog a gwobrwyo rhagoriaeth addysgu, i gryfhau gallu’r sector AB fod wrth wraidd datblygu sgiliau ar gyfer busnes a diwydiant yng Nghymru, a chryfhau arloesedd ymchwil a datblygu ar draws addysg uwch a diwydiant, sy’n hanfodol mewn byd sy’n symud yn gynyddol tuag at economi wybodaeth. Yn amlwg, mae sefyllfa lle mae gwariant y Llywodraeth a’r cyngor ymchwil ar ymchwil a datblygu yn ddeg gwaith yn fwy y pen yn Ne Ddwyrain Lloegr nag yng Nghymru yn ein gadael ni mewn o dan anfantais mawr.

Arloesedd yw’r edau euraidd. Er mwyn efelychu’r math o dwf economaidd parhaus a adfywiodd economi Gwlad y Basg, er enghraifft, mae’n rhaid i Gymru ddod yn arloeswr go iawn ym mhob maes o gynllunio economaidd. Rhaid inni chwilio am opsiynau allforio newydd a bod yn hyderus ynglŷn â lle mae Cymru yn cyd-fynd orau o fewn marchnadoedd rhyngwladol; rhaid inni adnabod ac arbenigo mewn sectorau allweddol; mae’n rhaid inni ddatblygu strategaeth ynni / ddiwydiannol wedi’i adeiladu ar wneud y mwyaf o gynnyrch ein adnoddau naturiol, a cheisio ffyrdd i ychwanegu gwerth ato trwy allforio sgiliau / technolegau (mae angen i ni ddatblygu rhaglen morlynnoedd llanw dan arweiniad Cymru!); a rhaid inni annog cyfraddau llwyddiant entrepreneuriaeth a entrepreneuraidd (mae ffigyrau yn dangos bod gan Gymru fwy o entrepreneuriaid dechreuol na chyfartaledd y DG, ond fod llai yn ei wneud i lwyddiant busnes).

Mae angen inni ddathlu llwyddiant busnes Cymru, ac annog menter unigol ochr yn ochr â’r cydweithredol – rwy’n gefnogwr brwd dros fenter cydweithredol a chymdeithasol. O ddarparu gofal cymdeithasol yn ein cymunedau i chwistrellu bywyd newydd i’n strydoedd mawr, credaf y dylem geisio cyfleoedd newydd i gymell cydweithredoedd. Mae cymdeithasau cydfuddiannol yn darparu model arall i’w hannog, hefyd – yn eiddo i’r aelodau, gyda elw a buddion yn cael eu rhannu.

Rydym yn wynebu’r amseroedd mwyaf heriol. Mae methiant Llywodraeth Cymru i gadw i fyny â gwledydd a rhanbarthau sy’n cystadlu mewn meysydd allweddol yn golygu nad oes gennym unrhyw opsiwn ond i anelu’n uchel. Uchel iawn. Gydag ansicrwydd Brexit hefyd ac anhrefn posib unrhyw Brexit heb gytundeb, mae arnom angen Llywodraeth sy’n ddidostur yn ei uchelgais economaidd. Fel Prif Weinidog, byddai hyn yn flaenoriaeth allweddol i mi, wrth arwain Llywodraeth Plaid Cymru yr wyf yn gwybod y gallai gyflawni, Llywodraeth sy’n cyfuno wir ddynameg a gonestrwydd. Mae gennym bolisiau a meddylwyr economaidd cyffrous yn y blaid. Mae arnom angen arweinydd a all weithredu’r syniadau hynny ac adeiladu ymddiriedaeth yn yr hyn yr ydym yn ceisio’i gyflawni ar gyfer ein cenedl.

Wrth gwrs, bydd y cyfleoedd go iawn yn dod trwy fod â rheolaeth ar y llyw ein hunain a chael y cymhelliant ychwanegol o geisio ffyniant economaidd fel cenedl annibynnol. Gall pob un ohonom uno yn awr wrth geisio gosod sylfeini economaidd cadarnach i Gymru. Pwy all wrthwynebu hynny?! Ond rmae hi wastad wedi bod yn nod i mi i berswadio eraill i fynd ag uchelgais genedlaethol i’r lefel nesaf, ac fel arweinydd Plaid, byddai hynny yn dal i fy ngyrru. Mae goresgyn rhwystrau, mynd i’r afael ag ofnau, meithrin hyder .. a pherswadio pobl o botensial economi Cymru wrth wraidd y fenter honno.