Amseroedd aros orthopedig – wedi mynd tu hwnt i argyfwng

Rhun ap Iorwerth yn galw am ddadl brys i drafod amseroedd aros yn Ysbyty Gwynedd

Mae AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wedi gofynam ddadl yn amser y Llywodraeth i drafod yr argyfwng gwirioneddol sydd yna o ran amseroedd aros am lawdriniaeth orthopedig yn Ysbyty Gwynedd, a’r pryder bod yr argyfwng yna wedi troi yn rhywbeth llawer gwaeth na hynny.

Yn siarad yn y Senedd ddoe, dywedodd Rhun:

“Mis Mai oedd y tro diwethaf i mi ofyn am ffigyrau aros ar gyfer llawdriniaeth orthopedig yn Ysbyty Gwynedd. Mi oedd yna 2,200 o bobl yn aros bryd hynny am 110 o wythnosau. Erbyn i fi gael yr ateb diwethaf gan fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn yr wythnosau diwethaf, mae’r ffigwr hwnnw wedi codi i 2,900 o bobl ac amser aros o 115 o wythnosau.

“Does dim angen i fi ddweud bod hynny’n annerbyniol. Mae prif weithredwr y bwrdd iechyd yn ymddiheuro yn ei lythyr diweddar i fi ac yn derbyn bod hyn yn annerbyniol, ond nid ymddiheuriad rydyn ni’n chwilio amdano fo ond trefn sydd yn galluogi cleifion yn fy etholaeth i ac etholaethau cyfagos i gael triniaeth mewn amser teg.

“Mae yna ddau o lawfeddygon yn mynd i gael eu penodi o fis Ionawr, fel rydw i’n deall. Y gwir amdani ydy bod hyn yn rhy ychydig ac yn rhy hwyr, ac maen nhw’n delio rŵan efo amser aros o 700 yn fwy o bobl na pe bai’r penderfyniad wedi cael ei wneud chwe mis yn ôl neu fwy i benodi pan oedd gwir angen. Felly, a gawn ni ddadl frys ar hyn oherwydd, fel dwi’n dweud, mi oedd gennym ni argyfwng yn flaenorol, ond mae wedi mynd tu hwnt i hynny erbyn hyn hyd yn oed?”