‘Un genedl, un uchelgais’ – uchelgais Plaid dros y genedl yn apelio i Gymru gyfan: Rhun ap Iorwerth

Heddiw, bydd Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Rhun ap Iorwerth, yn annog pobl ledled y wlad i uno y tu ol i weledigaeth y blaid am Gymru iach, glyfrach, gyfoethocach i roi terfyn ar 17 mlynedd o dranc dan arweiniad Llafur.

Wrth siarad cyn ei araith i Gynhadledd Wanwyn Plaid Cymru yn Llanelli, dywedodd Rhun ap Iorwerth fod gan y blaid y rhaglen lywodraeth fwyaf dyfeisgar yn ei hanes, ac y gall uchelgais Plaid Cymru dros y genedl apelio I Gymru gyfan.

Ychwanegodd y gall pobl ledled y wlad, beth bynnag fo eu cefndir, eu hamgylchiadau neu eu teyrngarwch blaenorol, uno y tu ol i raglen Plaid Cymru i wrthdroi cyflwr ein gwasanaethau cyhoeddus a chreu economi Gymreig gref a gwydn.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi:

“Gwyddom pa fath o Gymru or hoffem ei gweld. Cymru ble fo unigolion a chymunedau yn cael eu parchu, ble fo amrywiaeth yn cael ei ddathlu, a ble y gall pawb geisio cefnogaeth i wireddu eu gobeithio a’u dyheadau, i’w hunain ac i’w teuluoedd.

“Mae ein hamcanion i’r economi yn glir – cefnogi busnesau bach i dyfu drwy dorri trethi busnes, sicrhau fod mwy o gytundebau o Gymru yn mynd i gwmniau yng Nghymru, a gwerthu ein cynnyrch, syniadau a sgiliau i’r byd drwy greu WDA newydd i’r unfed ganrif a’r hugain.

“Byddai ein Comisiwn Isadeiledd Cenedlaethol newydd yn adeiladu seiliau cadarn i economi gref a gwydn – yn buddsoddi mewn rhwydweithiau isadeiledd digidol, trafnidiaeth gwyrdd ym mhob cwr o’r Wlad. Gorllewin, dwyrain, gogledd, de – un genedl, un uchelgais.

“Mae pleidleisio i Blaid Cymru – drwy ystyried a gweld potensial yn y rhaglen yr ydym yn ei chyflwyno – yn golygu pleidleisio dros fath newydd o arweinyddiaeth i Gymru sy’n feiddgar a chyfrifol.

“Gall ein huchelgais dros Gymru apelio i bawb. Beth bynnag fo cefndir, amgylchiadau neu deyrngarwch blaenorol pobl, gall y genedl gyfan uno y tu ol i’n rhaglen i greu Cymru iach, glyfrach, gyfoethocach.

“Mae newid go iawn ar y papur pleidleisio yn yr etholiad hwn. Nawr yw’r amser i benderfynu. I’r gweithiwr, y perchennog busnes a’r entrepreneur sy’n edrych am oes newydd o hyder economaidd. I’r athro sy’n edrych am barch gan y llywodraeth. I deulu’r rhai sy’n dioddef dementia ac sy’n edrych am help llaw. I’r bobl ifanc sy’n edrych am gyfleoedd.

“Dros Gymru newydd, gyda llywodraeth newydd. Plaid Cymru yw’r newid sydd ei angen.”