“Ni all hyn fod yn ddychwelyd i ‘normal cyn-bandemig’ – mae angen cynllun adfer pendant, uchelgeisiol arnom” meddai Rhun ap Iorwerth AS

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ar sut y bydd y £100 miliwn ychwanegol yn cael ei wario ar GIG Cymru – cyhoeddiad a ragflaenodd diweddariad ar ffigurau rhestrau aros GIG Cymru – dywedodd Gweinidog Cysgodol Iechyd a Gofal, Rhun ap Iorwerth AS –

“Mae effaith y pandemig ar amseroedd aros y GIG wedi bod yn ddinistriol, gyda miloedd o driniaethau wedi’u gohirio a’u canslo, a chredir bod miloedd o bobl wedi colli diagnosis canser.

“Fodd bynnag, rydyn ni i gyd yn cofio bod amseroedd aros eisoes yn rhy uchel cyn y pandemig, felly ni all hyn ymwneud â dychwelyd pethau i’r ‘normal cyn-bandemig’. I droi pethau o gwmpas, rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru gyflwyno cynllun adfer solet, uchelgeisiol, sy’n rhoi GIG Cymru mewn gwell sefyllfa nag yr oeddem ar ddechrau’r pandemig.

Ychwanegodd – “Fel mater o frys, rhaid i hyn flaenoriaethu diagnosis canser cynnar, dod â’r rhai sydd heb gael diagnosis i’r system a darparu gofal effeithiol i’r cleifion hynny yng nghyfnodau diweddarach canser a fydd angen triniaethau mwy cymhleth.”