Mynegwch eich barn, meddai AC Ynys Môn ynglŷn â chynlluniau peilonau Grid

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, yn annog trigolion Môn a thu hwnt i fynegi eu gwrthwynebiad i gynlluniau Cyswllt Gogledd Cymru’r Grid Cenedlaethol drwy gysylltu efo Arolygiaeth Gynllunio Llywodraeth y DU cyn y dyddiad cau, ar y 29ain o Dachwedd.

Mae swyddfa’r AC yn cynnal saith digwyddiad gan y grŵp ‘Dim Peilonau’ wrth i’r dyddiad cau ar gyfer yr Arolygiaeth Gynllunio agosáu, lle bydd y grŵp wrth law i helpu unigolion i gofrestru eu barn ynglŷn â’r datblygiad peilonau.

Byddai cynlluniau’r grid yn cynnwys adeiladu 100 o beilonau newydd yn ymestyn dros Ynys Môn, yn ogystal â thwnnel i gymryd ceblau trydan o dan Afon Menai.

Bu Mr ap Iorwerth yn ymgyrchydd lleisiol yn erbyn rhes newydd o beilonau a’r opsiwn twnnel costus.

Mae’n cefnogi’r opsiwn o danddaearu ceblau neu o dan y môr, ac yn dadlau y byddai’n well i wario’r £200- £300m ar dwnnel i osod ceblau ar groesfan newydd y Fenai, fel cymhorthdal i ddeuoli Pont Britannia.

Dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Ni ddylid caniatáu i’r Grid Cenedlaethol godi llinell newydd o beilonau ar draws yr ynys. Mae’r Grid eisiau creu cyswllt trydan yn y ffordd rataf posib – ond byddai eu cynlluniau yn costio’n ddrud i’r ynys o ran tynnu oddi ar ei apêl ddeniadol, yr amgylchedd naturiol, gweledol, twristiaeth a phrisiau eiddo.

“Mae’r Cynulliad wedi siarad gydag un llais ar y mater yma, a phobl Môn a phob un o’i chynrychiolwyr etholedig, ac mae’n amser i’r Grid Cenedlaethol wrando arnom. Rydw i wedi cynnig i ‘Dim Peilonau’ Ynys Môn ddefnyddio fy Swyddfa, gan eu bod yn ceisio helpu pobl i fynegi eu barn am y peilonau. Os ydych chi eisiau gwneud hynny, dewch i’m swyddfa a bydd y grŵp wrth law i’ch helpu i leisio eich barn.

“Rhaid inni hefyd barhau i roi pwysau ar y Grid Cenedlaethol am yr angen i ymgorffori Cyswllt Gogledd Cymru newydd fel rhan o ddatblygiad y bont newydd, yn hytrach na symud ymlaen â’u dewis costus iawn o dwnelu o dan y Fenai.

“Dim ond yn y mis diwethaf, dywedodd Llywodraeth Cymru wrtha’i eu bod mewn trafodaethau adeiladol gyda’r Grid, ac mae’n hollbwysig bod pwysau’n cael ei rhoi arnynt i sicrhau bod astudiaeth dichonolrwydd yn cael ei gynnal ar ddefnyddio’r bont newydd i gario’r ceblau, cyn gynted ag y bo modd.”

Bydd y grŵp ‘Na i Peilonau Ynys Môn’ yn gwneud defnydd o swyddfa Rhun ap Iorwerth rhwng 10yb a 4yp ar y dyddiadau canlynol: Gwener, Tachwedd 9fed; Gwener, Tachwedd 16eg; Mercher, Tachwedd 21ain; Mercher Tachwedd 28ain; Iau Tachwedd 29ain.