Mwynhau’r Primin eto eleni!

montage

Roedd Sioe Môn yr wythnos ddiwethaf unwaith eto yn llwyfan gwych i Ynys Môn a’i chymunedau gwledig. Mae’r Sioe yn un o uchafbwyntiau blwyddyn, adeg pan ddaw’r ynys gyfan at ei gilydd am sgwrs, ac mae yna wastad gymaint i’w weld a’i wneud ar gae’r sioe.

Eleni, cefais y pleser o gyflwyno gwobr i gystadleuydd ifanc iawn – dim ond 3 mlwydd oed! – a oedd yn arddangos moch bach; chwarae tombola siocled Digartref Ynys Môn; a llongyfarchodd sawl menter newydd ar yr ynys, gan gynnwys cynnyrch fferm Bodlas a Disgo a PA ‘Twrw Mawr’ y ffermwr ifanc Huw Evans.

Dysgais hefyd am app newydd Cymorth Cyntaf y Groes Goch – syniad gwych, ac app defnyddiol iawn i gael ar flaenau eich bysedd.

Cefais y cyfle i gwrdd â chynrychiolwyr o Undeb Amaethwyr Cymru ac NFU Cymru ar faes y sioe. Mae hi’n amser ddigon anodd i ffermwyr, gyda phrisiau llaeth ac anifeiliaid yn gostwng. Siaradais gyda’r undebau ffermio yn hir am hyn a materion eraill gan gynnwys Taliadau Sengl a’r angen am labelu clir a gonest fel bod defnyddwyr yn gwybod yr hyn y maent yn ei brynu ac yn gallu gwneud dewis gwybodus.