Myfyrwyr David Hughes yn cynnal dadl Cynulliad

Bu myfyrwyr chweched dosbarth Ysgol David Hughes, Porthaethwy, yn ymarfer eu sgiliau dadlau yn y Cynulliad cenedlaethol yr wythnos hon.

Yn ystod eu hymweliad i Gaerdydd, cafodd y disgyblion o Ysgol David Hughes sesisynau trafod gyda’r Aelod Cynulliad Rhun ap Iorwerth, Gohebydd Gwleidyddol y BBC, Vaughan Roderick a Catrin James o’r Urdd, cyn cymryd rhan mewn dadl yn hen siambr y Cynulliad, Siambr Hywel.

Pwnc y ddadl, a ddewiswyd gan y myfyrwyr eu hunain, oedd ‘Brexit: bendith neu felltith i Gymru?’.

Cyfarfod AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth gyda nhw eto ar ôl y ddadl. Dywedodd:

“Roedd hi’n braf cael rhannu syniadau gyda myfyrwyr Ysgol David Hughes ynglŷn â Brexit, y goblygiadau, a dyfodol Cymru. Roedd ganddynt gwestiynau diddordol, aeddfed, ac yn barod iawn i rannu eu barn.

“Dwi’n falch eu bod nhw wedi cael y cyfle i gael blas o sut mae’r Cynulliad yn gweithio try gynnal dadl a phleidleisio arni yn nghyn-siambr y Cynulliad, ac yna cael dod i weld y Senedd ei hun.”