Cefais gyfarfod gyda Dŵr Cymru ddoe i drafod nifer o broblemau a gododd yn sgil y llifogydd a’r glaw trwm dros yr wythnosau diwethaf.
Trafodwyd cynlluniau hir dymor ar gyfer Llangoed a Phentre Berw, ac rydym yn disgwyl manylion cynlluniau i leddfu problemau yno. Bydd y trigolion yn cael newyddlen ganddynt maes o law.
Buom hefyd yn trafod problemau yn Aberffraw, Llangaffo, Niwbwrch, Dwyran a’r ardal – fe amlinellais nifer o broblemau a gofyn am adborth ynglŷn â pha gamau all Dŵr Cymru eu cymryd i atal problemau rhag codi eto ar systemau o’u heiddo nhw.
Roeddent yn awyddus hefyd i annog pobl i gysylltu gyda nhw’n uniongyrchol os oes problemau gyda dŵr glan neu ddŵr gwastraff. Mae’r rhifau hyn yn weithredol 24 awr y dydd:
Dŵr glân: 0800 052 0130
Dŵr gwastraff: 0800 085 3968