Gwneud y gorau o’n môr

Mewn dadl yn y Cynulliad Cenedlaethol ar yr ‘economi las’ yr wythnos hon, bu AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth yn pwysleisio pwysigrwydd y môr i economi Môn a siaradodd am bwysigrwydd cael strategaeth forol i wneud y gorau o’i adnoddau.

Mae gweithgaredd sy’n ymwneud â’r môr eisoes yn werth tua £2.1bn i Gymru ac yn cefnogi degau o filoedd o swyddi.

Yn ei gyfraniad i’r ddadl a gafodd ei gyd-gyflwyno gan Rhun ap Iorwerth, siaradodd am brosiect Morlais, adran SEACAMS o Brifysgol Bangor yn ogystal ag am ddiwyddiannau eraill megis bwyd, twristiaeth ac am botensial y diwydiant llongau pleser.

Yn siarad yn y Senedd, dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Fel cenedl, mae’r heli yn ein gwaed ni; mae o’n rhan o’n gwead ni, ein hanes, ein diwylliant, ein llenyddiaeth ni hyd yn oed—o Cynan ‘a thonnau gwyllt y môr’ yn ‘Aberdaron’ i Ceiriog yn ein gwahodd ni i gyd i rwyfo gyda’r don i Ynys Môn. Ond gymaint ag y mae’r môr wedi bod yn awen ac yn ysbrydoliaeth i feirdd yn y gorffennol, y cwestiwn i ni, wrth inni sefyll ar ein glannau ni yn edrych tua’r môr heddiw, ydy: sut ydym ni am allu cael ysbrydoliaeth, os liciwch chi, o’r newydd i fanteisio i’r eithaf ar yr adnodd yna fel sail i greu cyfoeth i’r genedl ac i genedlaethau’r dyfodol?

“Yn y môr, ac ar y glannau, mae yna harddwch a hamdden i wella safon bywyd dinasyddion a phobl Cymru ac i ddenu ymwelwyr. Mae yna fwyd. Mae yna ynni di-ben-draw. Mae’r môr yn cynnig her i ddatblygu technoleg a sgiliau gweithgynhyrchu newydd i allu rhyddhau’r potensial. Mae’r rhain i gyd yn cyfrannu at ein heconomi las ni, ond a ydy pob cam yn cael ei gymryd, ydy’r cwestiwn, i fanteisio i’r eithaf ar yr addewid hwnnw?

“Mae yna bum mlynedd erbyn hyn ers i Lywodraeth Iwerddon gyhoeddi strategaeth i ddatblygu’r economi forol, ‘Harnessing Our Ocean Wealth’. Beth wnaeth Iwerddon oedd edrych ar y sector forol yn ei chyfanrwydd, a dyna yn union rwy’n credu y mae angen inni ei wneud yma yng Nghymru. Mi wnaeth pwyllgor menter y Cynulliad diwethaf alw am strategaeth forol hefyd, ac rwy’n edrych ymlaen at weld ymgynghori ar gynllun morol cyntaf Cymru yn dechrau eleni, ond, wrth gwrs, mae hwn yn rhywbeth a ddylai fod wedi digwydd flynyddoedd yn ôl.

“Mae yna arloesi yn fy etholaeth i hefyd yn y maes yni adnewyddol. Mae Menter Môn, drwy barth datblygu Morlais, yn denu cwmnïau o draws y byd i arbrofi â’r genhedlaeth nesaf o offer cynhyrchu ynni morol oddi ar arfordir gorllewinol yr ynys. Rwy’n hyderus iawn y bydd cwmni Minesto a’i farcud tanfor rhyfeddol, arloesol yn creu diwydiant newydd ac y bydd nid yn unig yn cyflogi yn lleol, ond yn allforio i’r byd.

“Mae’n bwysig hefyd sôn am waith rhagorol adran SEACAMS Prifysgol Bangor, ym Mhorthaethwy. Mae Cymru yn gallu arloesi. Mae Cymru yn gallu arwain. Ac o sôn am SEACAMS, rydw i’n croesawu’r arian sydd wedi cael ei fuddsoddi mewn ymchwil morol yng Nghymru. Wrth gwrs, mae cyllid Ewropeaidd wedi bod yn allweddol yn hynny o beth. Nid oes yna ddim sicrwydd gan Lywodraeth Prydain y gwnân nhw’n iawn am yr arian hwnnw yn y dyfodol, ac mae’r ansicrwydd yna—gadewch inni fod yn blaen—yn bygwth tanseilio llawer o’r gwaith da sydd wedi’i wneud yn barod.

“Fe soniaf i yn fras am gwpl o elfennau eraill o’r economi forol y gallwn ni eu datblygu: twristiaeth, er enghraifft. Mae angen mynd â diwydiant llongau pleser i’r cam nesaf yn Ynys Môn drwy fuddsoddi mewn adnoddau. Mae’r sector bwyd yn un pwysig yn Ynys Môn—Halen Môn yn enghraifft o burdeb ein dŵr ni, ond rydym ni hefyd yn cynhyrchu’r cregyn gleision gorau yn y byd—y cyfan y cael eu allforio, bron. Gadewch i ni fuddsoddi mewn adnoddau prosesu er mwyn gallu datblygu hynny ymhellach fel diwydiant.

“I gloi, strategaeth sydd ei hangen. Rydw i’n falch ein bod ni heddiw yn cael cyfle i wyntyllu barn ar beth ddylai fod ymhlith gwahanol elfennau strategaeth o’r fath. Mae’n heconomi forol eisoes, fel y clywsom ni, yn werth dros £2 biliwn. Rydw i’n credu bod y potensial am dwf yn aruthrol, a byddwn ni i gyd ar ein hennill o wireddu’r potensial yna.”