Mae rhaid i Drafnidiaeth Cymru ymrwymo i ymgynghori â chymunedau yn well cyn gwneud penderfyniadau, meddai Rhun ap Iorwerth AC

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi newid amseroedd trên mewn gorsafoedd llai yn Ynys Môn heb ymgynghori’n ddigonol hefo’r cymunedau sydd wedi cael eu heffeithio.

Mae’r newidiadau diweddar i’r amserlen yn golygu bod llai o wasanaethau’n cael eu rhedeg i orsafoedd llai ar yr ynys, sy’n codi problemau i’r defnyddwyr.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi gwneud newidiadau amgen ers derbyn cwynion, ond mae’r trenau diwedd dydd dal yn bryder i’r AC Rhun ap Iorwerth, sydd wedi weithredu ar y fater yma yn diweddar er mwyn sicrhau bod gwasanaeth gwell yn cyrraedd gorsafoedd bach yr ynys.

Wrth gwestiynu’r Gweinidog Economi, Ken Skates, wythnos yma dywedodd Mr ap Iorwerth:

“Mi wnaeth nifer o etholwyr gysylltu efo fi yn dilyn newidiadau amserlenni yn siomedig bod gwasanaethau i orsafoedd llai Môn—Fali, Rhosneigr, Tŷ Croes, Bodorgan a Llanfairpwll—wedi cael eu lleihau. Oes, mae eisiau gwasanaethau cyflym, ond mae angen gwasanaethu ein cymunedau ni hefyd.

“Dwi yn falch bod Trafnidiaeth Cymru wedi dod yn ôl ataf i rŵan i ddweud bod yna newidiadau wedi cael eu gwneud i amserlenni sydd yn bodloni nifer o’r cwynion a gafodd eu gwneud. Wedi dweud hynny, mae yna sawl bryder o hyd ynglŷn ag argaeledd trenau i orsafoedd llai ar ddiwedd y diwrnod ysgol ac yn y blaen.

“Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyfaddef i mi, ‘na wnaethon ni ddim efallai ymgynghori digon efo’r cymunedau wrth wneud y penderfyniadau’, a dwi’n meddwl bod y pryderon eraill yma ynglŷn â threnau diwedd y dydd yn enghraifft arall o rywbeth fyddai wedi cael ei fflagio i fyny pe bai ymgynghori iawn wedi cael ei wneud.

Cytunodd yr AC Ken Skates bod angen ymgynghori’n iawn â chymunedau a dywedodd:

“Newid amserlen mis Rhagfyr oedd y newid mwyaf i’r gwasanaethau ers dros dri degawd. Mae hyn wedi bod o fudd i rai defnyddwyr rheilffyrdd, ond mae gwasanaethau eraill wedi cael eu heffeithio yn anffodus. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ceisio cyflwyno mesurau amgen i ddatrys y sefyllfaoedd ble mae gwasanaethau wedi’u heffeithio, ac yn adolygu posibiliadau pellach i ddiwygio amserlen fel rhan o newid amserlen mis Mai.

“Mae ymgynghori’n briodol yn rhywbeth rydw i wedi’i godi gyda Thrafnidiaeth Cymru wrth inni agosáu at newid amserlen mis Mai. Rwy’n credu ei bod yn hanfodol bod grwpiau rhanddeiliaid a chymunedau’n cael gwybod ymhell cyn y newidiadau arfaethedig fel y gallent gael rhywfaint o fewnbwn i weld a yw’r newidiadau’n fuddiol neu beidio.

Cysylltwch â Thrafnidiaeth Cymru trwy e-bost: customer.relations@tfwrail.wales neu ffôn: 0333 3211 202.