“Mae hon wedi bod yn argyfwng iechyd meddwl yn ogystal ag argyfwng iechyd corfforol” – Rhun ap Iorwerth AS

“Mae hon wedi bod yn argyfwng iechyd meddwl yn ogystal ag argyfwng iechyd corfforol” meddai AS Ynys Rhun ap Iorwerth, Ynys Môn

Wrth ymateb i adroddiad y pwyllgor iechyd ar yr ymchwiliad i Covid-19 a’i effaith ar iechyd meddwl a lles, dywedodd Rhun ap Iorwerth AS fod “y pandemig wedi achosi difrod ehangach na’r difrod corfforol uniongyrchol a achoswyd gan COVID-19 ei hun”

Ychwanegodd “bu effaith ar fynediad pobl i wasanaethau iechyd meddwl, weithiau oherwydd cyfyngiadau a phwysau ychwanegol ar y gwasanaeth iechyd ac, ar adegau eraill, nid oedd pobl yn siŵr ble i droi yn ystod y pandemig – nid oeddent yn gyfforddus, efallai , siarad â phobl ar y llwyfannau digidol newydd hyn am bethau a allai fod yn peri pryder iddynt. ”

Ychwanegodd Gweinidog Cysgodol Iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS – “Fe wnaethon ni drafod yn ystod yr ymchwiliad hwn nad oes angen i ni or-feddyginiaethu pethau ar bob achlysur, bod angen i ni ystyried ein hymatebion naturiol, emosiynol – profedigaeth, tristwch, pryder am y sefyllfa bresennol, ac ati – ac mae angen i ni feddwl am ffyrdd eraill o edrych ar lesiant pobl. Rwyf wedi bod yn gwthio’r Llywodraeth i wneud popeth posibl i ganiatáu ymarfer corff yn yr awyr agored ac i sicrhau bod pobl yn gallu mynd allan yn yr awyr agored. Mae’r rhain yn ddulliau meddal ond yr un mor bwysig.