Bydd colli’r Swyddfa Bost yn ergyd fawr i Amlwch, medd AC

Mewn ymateb i’r newyddion fod Swyddfa Bost Amlwch yn cau, dywedodd AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth:

“Bydd colli’r Swyddfa Bost yn ergyd fawr i Amlwch. Dim ond wythnosau yn ôl, fe gyhoeddodd HSBC eu bwriad i gau eu cangen yn y dref, a dywedwyd wrth gwsmeriaid y dylen nhw allu gael mynediad at eu cyfrif trwy’r Swyddfa Bost! Rhybuddiais mewn dadl Cynulliad ar fancio wythnos yn ôl bod ansicrwydd dros ddyfodol Swyddfa Bost Amlwch, ac ysgrifennais at Swyddfa’r Post Cyf i godi’r pryderon hynny.

“Er bod Swyddfa’r Post Cyf yn dweud eu bod nhw’n benderfynol o adfer gwasanaeth yn y dref ar y ‘cyfle cyntaf’, mae hi’n siomedig iawn na allwyd datrys hyn yn gynt. Byddaf yn cadw’r pwysau ar Swyddfa’r Post i ddod o hyd i ddarparwr newydd cyn gynted â phosib – all Amlwch ddim gwneud heb y gwasanaeth yma.”