Lleisiwch eich barn ar wasanaethau mamolaeth Ysbyty Gwynedd cyn y dyddiad cau ddydd Llun

Mae Aelod Cynulliad Ynys Môn Rhun ap Iorwerth yn annog etholwyr i ddweud eu dweud er mwyn amddiffyn gwasanaethau mamolaeth Ysbyty Gwynedd, cyn i’r ymgynghoriad gau ar ddydd Llun, Hydref 5ed.

Dywed AC Môn:

“Mae canoedd o bobl wedi arwyddo deiseb Plaid Cymru sydd yn gwrthwynebu unrhyw fwriad i is-raddio gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Gwynedd, sydd yn dangos cryfder y teimlad am y mater yma yn lleol.

“Mae’r tîm ardderchog o fydwragedd, nyrsys a doctoriaid yn Ysbyty Gwynedd yn darparu gwasanaeth mamolaeth hanfodol i bobol Ynys Môn. Nid yw’n dderbyniol cynnig israddio’r gwasanaethau.

“Rydw i eisoes wedi cyflwyno f’ymateb i’r ymgynghoriad, yn dweud ni allwn fforddio colli’r adran famolaeth yn Ysbyty Gwynedd fel y mae, ac ni allwn dderbyn hyn fel cam cyntaf tuag at israddio’r ysbyty yn gyffredinol.  Gall etholwyr darllen fy ymateb ar fy ngwefan, ond byddwn hefyd yn annog cymaint o bobl a phosib i gyfrannu’n uniongyrchol i’r ymgynghoriad cyn y dyddiad cau ar Hydref 5ed.”

Gall pobl ddarllen mwy am y cynigion ac ymateb i’r ymgynghoriad ar wefan y Bwrdd Iechyd www.wales.nhs.uk/NWMaternity.

 

Ymateb Rhun i’r ymgynghoriad ar wasanaethau mamolaeth yng ngogledd Cymru:

Annwyl Syr / Madam,

Ysgrifennaf atoch i gyflwyno fy mewnbwn i’ch ymgynghoriad ar wasanaethau mamolaeth yn y gogledd. Ysgrifennaf yn fy rôl fel Aelod Cynulliad Ynys Môn, ac yn benodol rwyf am wneud sylwadau parthed cynlluniau ar gyfer Ysbyty Gwynedd, sef yr ysbyty cyffredinol sydd yn gwasanaethu fy etholwyr.

Ni allaf or-bwysleisio fy mhryder am unrhyw gamau allai arwain at israddio gwasanaethau mamolaeth ac obstetreg yn Ysbyty Gwynedd. Rwyf am leisio fy ngwrthwynebiad i unrhyw fath gamau yn y modd cryfaf posibl.

Rydych yn ystyried israddio’r adran famolaeth i adran fydwragedd yn unig. Ni ddylem fynd lawr y llwybr hwn ar unrhyw gyfrif. Am resymau daearyddol yn unig, mae’n gwbl afresymol i ystyried tynnu arbenigedd meddygol o adran sy’n gwasanaethu ardal mor eang, gyda mamau yn teithio iddi o bellteroedd mawr, gyda siwrneiau yn cymryd awr a mwy yn barod.

Mae 2500 o fabanod yn cael eu geni yn Ysbyty Gwynedd bob blwyddyn. Mae nifer uchel o’r rheiny angen gofal ychwanegol yn ystod y genedigaeth. Y canlyniad o israddio i wasanaeth mamolaeth yn unig fyddai i orfodi cannoedd o famau beichiog i deithio i ysbyty arall gryn bellter i ffwrdd i dderbyn y gofal ychwanegol hwnnw, neu i gael eu cludo yno ar frys, gan roi’r fam mewn perygl oherwydd yr oedi, a gan roi pwysau ychwanegol sylweddol ar wasanaethau Ambiwlans.

Fodd bynnag mae pryderon eraill ynglŷn â beth fyddai pen draw cam o’r fath. Buasai’r cam gwag hwn yn ddechrau ar broses o erydu gallu Ysbyty Gwynedd fel ysbyty gofal brys. Buasai yn golygu gostyngiad yn yr hyn gynigir o ran gwasanaeth paediatreg, er enghraifft, ac o ganlyniad fyddai’r adran frys ddim yn un sy’n gyflawn weithredol.

Mae teimladau cryfion ar y mater hwn yn fy etholaeth ac ar draws y gogledd orllewin, fel sydd yna ar draws y gogledd mewn perthynas ag elfennau eraill o’ch cynlluniau. Rwyf wedi dewis peidio ag ymateb i’ch ymgynghoriad drwy lenwi’r ffurflen ymgynghori swyddogol, am y rheswm eich bod, drwy’r ddogfen honno, yn gwahodd pobl y gogledd i weithio yn erbyn ei gilydd, ac i ddewis eu hysbyty lleol nhw dros ysbytai eraill. Nid wyf yn barod i wneud hynny, ac nid yw’n rhesymol i chi roi pobl y gogledd yn y sefyllfa honno. Dadlau achos Ysbyty Gwynedd wyf i – Ysbyty sy’n gwbl allweddol i wasanaethu ardal eang, wledig. Ni allwn fforddio colli’r adran famolaeth fel y mae, ac ni allwn dderbyn hyn fel cam cyntaf tuag at israddio’r ysbyty yn gyffredinol.

Yn gywir,

RHUN AP IORWERTH

Aelod Cynulliad Ynys Môn