Llangefni i herio tîm rygbi Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae AC Ynys Môn a hyfforddwr tîm iau Clwb Rygbi Llangefni wedi gwahodd tîm Rygbi’r Cynulliad i Langefni i godi arian ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017.

Hwn fydd gêm gyntaf Rygbi’r Cynulliad yng ngogledd Cymru, ac er bod Rhun ap Iorwerth yn aelod o’r tîm, bydd yn chwarae yn lliwiau Llangefni yn erbyn ei gyd-chwaraewyr o’r Cynulliad.

Yn edrych ymlaen at y gêm, dywedodd Rhun ap Iorwerth:

“Mae’n grêt cael dod a thîm rygbi’r Cynulliad Cenedlaethol i fyny i Ynys Môn. Edrychaf ymlaen at ornest gyfeillgar ond caled – ac at godi arian ar gyfer Eisteddfod 2017 a Bowel Cancer UK. Gan fy mod yn hyfforddwr tîm iau Llangefni ac yn aelod o dîm y Cynulliad, mi allaf ddewis i ba dîm i chwarae iddo…felly fedrai ddim colli!”

Bydd y gic gyntaf am 2:00 ar ddydd Sadwrn, Tachwedd 12fed (ychydig oriau cyn y gêm Cymru v Yr Ariannin). Dewch yn llu i gefnogi’r ddau dîm.