Galwad olaf i wrthwynebu’r peilonau, wrth i Rhun bwyso ar y rheoleiddiwr ynni i helpu Ynys Môn

· Ofgem yn cytuno i alwadau’r AC am fwy o asesiad o’r gost i’r ynys
· Cannoedd o lythyrau yn cael eu cyflwyno gan drigolion ardal Star
· AC yn sicrhau astudiaeth ynghylch a ddylai tanddaearu gael ei ffafrio ar gyfer holl brif gysylltiadau’r DG
· Dyddiad cau ymgynghori yn nesau
 
Mae AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth wedi galw ar bennaeth y rheoleiddiwr ynni Ofgem i gamu i mewn i atal rhes newydd o beilonau rhag cael eu hadeiladu ar draws Ynys Môn. Ofgem sydd yn gosod y rheolau ar gyfer prosiectau mawr trosglwyddo trydan.
 
Mewn cyfarfod yn y Cynulliad yng Nghaerdydd, galwodd Mr ap Iorwerth ar Brif Weithredwr Ofgem Dermot Nolan i gydnabod y gost y mae gofyn i Ynys Môn ei dalu i ddarparu gweddill y DG gyda’r opsiwn trosglwyddo rhataf posibl. Dadleuodd fod unigolion yn talu drwy werth eu cartrefi, a bod y diwydiant twristiaeth yn arbennig, sy’n werth £250 miliwn y flwyddyn i’r ynys, o dan fygythiad. Mae llawer o bobl yn anymwybodol o raddfa’r cynlluniau, meddai.
 
Ar ôl y cyfarfod, dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Er na allai Dermot Nolan roi’r sicrwydd yr ydym ei angen, fe wnaeth wrando a clywodd y neges yn glir. Gwnaeth yn glir fod ganddo’r pŵer i ofyn i Grid Cenedlaethol i feddwl eto.
 
“Y cyfan dwi’n ofyn ydy bod y Grid Cenedlaethol yn cael y caniatâd i wario mwy – er mwyn gwneud y buddsoddiad angenrheidiol, fel y maent yn ei wneud mewn mannau eraill. Cyhoeddodd y Grid yn ddiweddar y byddant yn gwario cannoedd o filiynau o bunnoedd i roi ceblau dan y ddaear yn Ardal y Llynnoedd ac mewn Parciau Cenedlaethol eraill. Wel, dydy Ynys Môn yn haeddu dim llai. Dwi’n gwybod nad ydy Ynys Môn yn Barc Cenedlaethol, ond mi ydym ni yn Geoparc UNESCO, ac yn llawn ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol.”
 
Dywedodd yr AC ei fod wedi cael rhai canlyniadau a allai fod yn bwysig, gydag Ofgem yn cytuno i fynnu asesiad mwy manwl o faint y byddai’r peilonau yn gostio i Fôn. Gyda Rhun yn tynnu sylw at y faith fod gwledydd megis yr Almaen a Denmarc yn awr yn ffafrio rhoi ceblau dan ddaear fel mater o bolisi, cytunodd Mr Nolan i gychwyn astudiaeth ai polisi o’r fath fyddai orau ar gyfer y DG hefyd.
 
Dywedodd Rhun: “Roeddwn yn falch bod Ofgem wedi cytuno i ofyn yn benodol i Grid Cenedlaethol i wneud dadansoddiad cost a budd, gan gynnwys asesiad o’r effeithiau gweledol niweidiol posibl. Mae angen i ni wybod faint mae hyn yn mynd i’w gostio i Ynys Môn.
 
“Gallai’r astudiaeth ar danddaearu, gan gynnwys y manteision amgylcheddol ac economaidd, fod yn bwysig. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DG i ofyn a yw’n bwriadu dilyn esiampl yr Almaen trwy ei gwneud yn bolisi i gefnogi ceblau trydan tanddaearol newydd yn hytrach na pheilonau newydd. Mae’n dod yn norm mewn mannau eraill. Pam ddim yma?”
 
‘Bocsio’ STAR
 
Roedd y cyfarfod hefyd yn gyfle i Rhun gyflwyno cannoedd o lythyrau oddi wrth etholwyr pryderus o ardal Star. Ychwanegodd Rhun, a gyfarfu gyda hrigolion lleol yn ddiweddar:
 
“Star yw’r unig enghraifft lle mae’r llwybr yn gwyro oddi wrth y llinell wreiddiol, sy’n golygu y byddai Star a’r ardal gyfagos yn cael eu bocsio i mewn rhwng y peilonau presennol a’r llinell newydd a gynigir gan y Grid. Roeddwn yn falch i allu pasio llythyrau trigolion pryderus i bennaeth Ofgem yn bersonol ac i allu cyfleu eu pryderon iddo.”
 
OPSIWN Y BONT
 
Fe wnaeth yr AC hefyd annog Ofgem i ymuno â galwadau am bont fyddai’n cario ceblau, gan droi’r Britannia yn ffordd ddeuol, yn hytrach na dewis twnel o gebl o dan y Fenai. Dadleuodd Mr ap Iorwerth y byddai gwario £150 miliwn ar dwnel yn awr, a £150 miliwn arall ar bont yn y blynyddoedd sydd i ddod, yn wastraff gwarthus o arian.
 
Dywedodd yr AC ei fod wedi derbyn sicrwydd gan y Prif Weinidog fod trafodaethau gyda’r Grid Cenedlaethol yn parhau am hyn.
 
AMSER YN RHEDEG ALLAN
 
Mae’r ymgynghoriad diweddaraf Grid Cenedlaethol yn dod i ben ar Ragfyr 16eg. Mae’r AC yn annog cymaint o bobl â phosibl i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed drwy anfon eu gwrthwynebiadau i Freepost, Cysylltiad Cenedlaethol NW Grid.
 
Bydd cyfarfod cyhoeddus arall yn cael ei gynnal yn Neuadd y Dref, Llangefni dydd Gwener hwn am 7pm.