Eisiau cadw Ynys Môn fel uned etholiadol, medd AC yng ngwrandawiad cyhoeddus Comisiwn Ffiniau

Bydd AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth yn rhoi cyflwyniad yng ngwrandawiad cyhoeddus Comisiwn Ffiniau Cymru, sydd yn cael ei gynnal ym Mangor heddiw.

Yn siarad yn benodol am Ynys Môn, mae disgwyl iddo ddweud:

“Rydw i’n siomedig fod yr adolygiad hwn yn dod i ben â chynrychiolaeth sedd Ynys Môn sydd wedi ethol Aelod Seneddol ers 1545, a hefyd nad ydy’r un statws yn cael ei roi i Ynys Môn ac sy’n cael ei roi i’r ynysoedd mawr eraill o amgylch arfordiroedd Lloegr a’r Alban.

“Mae Ynys Môn wedi bodoli fel uned ers y drydedd ganrif ar ddeg, mae’n un o siroedd gwreiddiol Cymru, yn uned ddemocrataidd glir yn ddi-dor ers cenedlaethau lawer.

“Fel ynys, mae ei ffiniau wedi’u diffinio’n glir iawn. Byddai ei thynnu oddi ar y map etholiadol fel etholaeth ynys yn ergyd i ddemocratiaeth Ynys Môn ac i bobl Ynys Môn. Mae gwerth go iawn i gadw cysylltiad clir rhwng pobl yr ynys a’r rhai sy’n eu cynrychioli.

“Ac mae gwerth ffiniau ynys wedi cael ei gydnabod gan y Llywodraeth. Nid yw Ynys Wyth yn Lloegr nac ‘Orkney a Shetland’ a ‘Na h-Eileanan an Iar’ yn yr Alban yn cael eu cynnwys yn yr ad-drefnu, a chaniateir iddynt hwy gael etholaeth sydd yn fwy na 5% o gwota etholiadol y DG. Maent yn cael eu hystyried fel ‘etholaethau gwarchodedig’.

“Mae’r Llywodraeth yn amlwg yn gweld, fel yr ydw innau, fod ynys YN wahanol. Rydw i’n galw felly ar i Ynys Môn gael ei thrin fel achos arbennig – fel ‘etholaeth warchodedig’ – yn yr un ffordd ag y maent wedi’i wneud gydag Ynys Wyth ac Ynysoedd yr Alban.

“Yn ogystal, credaf y byddai’n anheg i ran o’r tir mawr gael eu trin fel ‘ychwanegiad’ i Ynys Môn – lle y byddai’r rhan fwyaf o boblogaeth unrhyw etholaeth newydd yn byw – dim ond i wneud yn iawn am y niferoedd. Does na ddim dosraniad teg ar ddwy ochr y bont.”